Basged (0) Mewngofnodi

Stori Bethan Richards

“Dod dros y rhwystrau sy’n bwysig a dathlu ein buddugoliaethau.” 

Stori Bethan Richards, Diffiniad

Cafodd Bethan Richards ei magu yn Rhydaman, Dyffryn Aman ac mae’n byw bellach yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a dau o blant.

Bu’n byw hefyd ym Mangor, Sir Ddinbych a Sir Fflint.

Bu’n athrawes Hanes cyn symud i Gaerdydd i weithio fel cynhyrchydd gyda’r BBC.

Mae hi yn Eiriolwr Anabledd ac wedi cyflwyno cyfres o raglenni o’r enw Meddwl yn Wahanol sydd ar gael i wrando arnynt ar BBC Sounds.

Ond i lawer, Bethan ydi’r gantores gyda’r grŵp disgo poblogaidd Diffiniad fu’n perfformio mor llwyddiannus yn yr Eisteddfod yn Wrecsam fis Awst y llynedd.

Dyma ddywedodd Bethan: “Ges i’n geni gyda cataracts felly dechreuodd y triniaethau pan o’n i’n ifanc iawn, iawn.

“Dwi’n meddwl mai’r driniaeth gyntaf ges i oedd pan oni’n chwe mis oed i gael gwared a’r cataracts.

“Dwi ‘di cael llu o driniaethau, sbectolau ac yn y blaen. Heddiw, d’oes gen i ddim golwg o gwbl yn fy llygad chwith ac mae gennai ychydig bach, bach o olwg yn fy llygad dde.

“Mae’n anodd disgrifio’r cyflyrau sydd gennai. Mae gen i glaucoma eilradd; ond y broblem fawr sy’ gennai yw bod fy nhornea yn dirywio yn fawr iawn.

“Dwi wedi cael sawl trawsblaniad cyfan a rhannol

“Dy’n nhw ddim yn gweithio’n dda iawn arna i, felly, chydig iawn, iawn o olwg sydd gennai.

“Dwi’n dal i weithio; dwi’n wraig; dwi’n fam i ddau o blant yn eu harddegau; a dwi hefyd yn dal i ganu efo Diffiniad.

“Dwi di bod efo Diffiniad ers 1992.

“Oedda ni yn brysur iawn am 10 mlynedd tan inni gymryd hoe a gorffen mewn ffordd yn 2001 yn yr Eisteddfod yn Ninbych.

“Ond cafo ni sawl cynnig i ddod 'nôl at ein gilydd ond doedd o byth yn amser iawn gan fod pawb i ffwrdd yn canolbwyntio ar eu gyrfaoedd; plant ac yn y blaen.

“Gatho ni gyfle i ddod yn ôl at ein gilydd yn 2018 i chwarae ar lwyfan y Maes ar nos Wener yn Eisteddfod Caerdydd.

“Roedd o’n brofiad unigryw ac anhygoel o ganu fanna gyda Chanolfan y Mileniwm o’n blaenau ni a chael gweld yr holl fae yn orlawn o bobl. Odd ‘e jyst yn fraint.

“Wedyn fe wnaethon ni gig y Pafiliwn yn 2019 gyda cherddorfa’r Welsh Pops ac wedyn aethon ni ymlaen.”

Yn ystod y cyfnod clod fe wnaeth Diffiniad ryddhau senglau ac albwm Diddiwedd ar Fai 19 y llynedd. Fe chwaraeodd y band Nhafwyl ar y dydd Sadwrn y llynedd a’r dydd Sadwrn cyntaf ar faes yr Eisteddfod yn Wrecsam.

Meddai Bethan: “Dwi’n berson eithaf prysur. Dwi’n trio peidio gadael i fy ngolwg i gael y gorau arna i a fi’n dweud does dim llawer dwi’n methu gwneud. Er dwi’n meddwl dydio ddim yn beth iach i roi delwedd sydd yn fêl i gyd i bawb.

“Dwi yn meddwl hefyd ei bod hi’n bwysig iawn i gydnabod bod byw efo nam golwg yn anodd eithriadol ac yn gallu bod yn bwysau ar iechyd meddwl rhywun a bod angen cymorth emosiynol ac ymarferol.

“A bod bywyd yn gallu bod yn anodd eithriadol, weithiau. Ond os fe allwn ni fod yn llwyddiannus yn y negeseuon ‘da ni yn eu rhannu, dwi’n meddwl fod hynna’n bwysig iawn. 

“Dwi’n dal yn teimlo mod i ar daith gyda fy anabledd ac wrth imi gael y cyfle i siarad efo sawl person dros y blynyddoedd diwethaf trwy fy ngwaith, fe wnes i sylweddoli fod gen i stori i’w ddweud ac efallai bod gan bobl eraill stori i’w ddweud. 

“Dyna pam y ces i’r syniad o greu'r podlediad Meddwl Yn Wahanol ac wrth galon yr holl beth oedd y ffaith fy mod i eisiau ei wneud ‘e mor hygyrch â mor gynhwysol i bawb.

“Felly nid yn unig chi’n gallu gwrando arno fe ar BBC Sounds, ond tra mae ‘e, mae ‘e wedi ei gael ei drawsgrifio i’r Gymraeg. 

“Felly os ydych chi’n pwyso’r is-deitlau, chi’n gallu ei ddarllen ‘e hefyd nid jyst ei glywed ‘e. Mae anabledd pawb mor wahanol. Ni mor unigryw ac olion bysedd.

“Ond ‘dani yma i helpu’n gilydd ac os mae Cymdeithas yn gallu newid a chreu bywyd sy’n fwy cynhwysol ac yn fwy hygyrch i ni gyda’n hanabledd ni fydd ein hanabledd ni yn teimlo’n fel llai o frwydr.

“Dod dros y rhwystrau yna sy’n bwysig a dathlu ein buddugoliaethau.”