A- A A+

English

Digwyddiadau

Dros y blynyddoedd rydym wedi trefnu diwrnodau agored mewn canolfannau fel Venue Cymru, Llandudno, Portmeirion, Galeri Caernarfon, Gwesty’r Royal Oak, Y Trallwng, Powys a’r Ganolfan, Porthmadog.

Mae’n gyfle i aelodau ac eraill weld beth sy’n newydd ym myd offer i unigolion a nam golwg.  Bellach mae’n cynnig y cyfle i ddarganfod mwy am sut i ddatblygu a chynnal annibyniaeth.

Hefyd rydym wedi trefnu diwrnodau gwybodaeth  mewn ardaloedd sy'n lleol i'n haelodau.

Mae hyn yn rhoi cyfle i bawb weld pa gefnogaeth sydd ar gael. Mae nifer o’n haelodau a’u teuluoedd wedi mynychu’r diwrnodau agored hyn.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Bethan ar 01248 353604 neu bethan@nwsb.org.uk


08.11.24 Trawsnewid ein canolfan adnoddau gyda chôt o baent

Mae canolfan adnoddau a swyddfeydd Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru wedi cael eu trawsnewid ar ôl cael eu paentio yn ein lliwiau corfforaethol.

Mae’r ganolfan ar 325, Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd yn fangre pwysig i bobl sydd â nam golwg ac yn cynnig arddangosfa o’r offer diweddaraf ynghyd â’r wybodaeth angenrheidiol.

Daw nifer o bobl yma i’r ganolfan unai i gael gwybod pa adnoddau sydd ar gael neu i dderbyn gwybodaeth a chymorth gan swyddogion y Gymdeithas sy’n arbenigwyr yn eu maes.

Darllen yr holl stori a gweld lluniau a fideos - Trawsnewid ein Canolfan Adnoddau


06.11.24 Golygfeydd, castell a geifr - taith ddiddorol yn Llanberis

Daeth 21 o gerddwyr ar daith ddiweddaraf ein clwb cerdded o amgylch pentref Llanberis, ynghanol ysblander mynyddoedd Eryri.

Eurwyn Thomas, un o wirfoddolwyr y clwb, oedd yn arwain y daith gerdded o amgylch ei bentref genedigol.

Roedd yn gylchdaith o tua 4 milltir ar hyd llwybrau tarmac yn bennaf.

Fe gychwynnon ni ein taith gerdded ar ôl ymgynnull yn y maes parcio ger y cerflun 'Llafn y Cewri' am 11:00yb.

Darllen yr holl stori a gweld lluniau a fideos - Taith Llanberis


15.10.24 Cyfle i bobl sy’n byw gyda nam golwg i yrru car ar drac rasio

Os ydych chi'n byw gyda nam golwg ond yr hoffech chi yrru car ar drac rasio, dyma'ch cyfle.

Mae elusen Speed of Sight yn cynnal digwyddiad ar ddydd Mawrth, Hydref 15fed yn Trac Môn, Ty Croes, Ynys Môn.

Mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind wedi cynnal digwyddiadau tebyg yn y gorffennol gyda Speed of Sight yn Trac Môn.

Mae’r elusen yn cynnig y profiad gyrru gwych hwn am gyfanswm ffi cofrestru o £59 y person, yn hytrach na’r ffi lawn o £159.

Darllen yr holl stori a gweld lluniau a fideos - Cyfle i yrru ar drac rasio


11.10.24 – Blas o gynnwys rhifyn Hydref, Papur Menai

Mae Papur Menai - papur newydd Glan Menai o Benmon i Ddwyran, Ynys Môn - yn cael ei ddarllen bob mis gan wirfoddolwyr.

Mae eu darlleniadau nhw yn cael ei recordio gan Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind yn ein stiwdio ym Mangor.

Mae'r recordiadau CD o'r papur wedyn yn cael eu hanfon drwy'r post i unrhyw un sydd â nam golwg fydde'n dymuno gael fersiwn llafar.

Darllen yr holl stori a gweld lluniau a fideos - Rhifyn Hydref Papur Menai


09.10.24 Blas o gynnwys rhifyn Hydref o bapur bro Lleu

Mae Lleu - papur bro Dyffryn Nantlle – yn cael ei ddarllen bob mis gan wirfoddolwyr. Mae’n cael ei recordio gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mangor. Dyma flas o gynnwys rhifyn mis Hydref – diolch i’r darllenwyr Gwenda Evans a Gwennie Williams.

Fideo - Rhifyn Hydref papur bro Lleu


26.09.24 Cannoedd yn mynychu Diwrnod Agored llwyddiannus ym Mhorthmadog

Daeth nifer fawr o bobl yn byw gyda nam golwg i Ddiwrnod Agored arbennig a drefnwyd gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mhorthmadog ddoe. Mae’r Gymdeithas wedi trefnu nifer o ddyddiau tebyg o’r blaen mewn lleoliadau tebyg i’r Venue yn Llandudno, Portmeirion a’r Royal Oak yn y Trallwng, Powys. Y tro hwn cynhaliwyd y digwyddiad yn Y Ganolfan, Porthmadog fel bod pobl o dde Gwynedd rhannau eraill y gogledd yn ogystal â phobl o’r canolbarth yn cael cyfle i fynychu. Roedd nifer wedi dod o Geredigion. Y bwriad oedd arddangos i bawb yr offer diweddara sydd ar gael gan gynnwys dyfeisiadau electronig.

Darllen yr holl stori a gweld lluniau a fideos - Diwrnod agored Porthmadog


23.9.24 Bayside Radio yn ymweld â Chlwb Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru Bae Colwyn

Daeth dros 25 o aelodau’r clwb ynghyd ym Mae Colwyn heddiw ar gyfer recordio rhaglen gyda Bayside Radio.Mae’r clwb yn cyfarfod pob ail a phedwerydd dydd Llun yn y mis yn @20, Ffordd yr Orsaf, Bae Colwyn.Mae’n agored i bawb sydd â nam golwg ac yn cynnal sgyrsiau a gweithgareddau i bawb sy’n galw draw.Mae’n glwb cymdeithasol a chroesawgar iawn hefyd ac mae gan bawb wastad amser i gael sgwrs, rhannu profiadau a mwynhau te a choffi a chacen neu ddwy!

Darllen yr holl stori a gweld lluniau a fideos - Ymweliad Bayside Radio


18.09.24 Taith gerdded Pentrefelin, Cricieth

Fe ddechreuodd y bws fel arfer o swyddfa Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru am 10.30yb gan godi cerddwyr hefyd yng Nghaernarfon.

Ar ôl cyfarfod ym Mhysgota Eisteddfa, Pentrefelin, cychwynnon ni ar ein taith dan arweiniad Marian Jones.

Ar ôl croesi’r ffordd brysur fe aethon ni ar hyd llwybrau a chaeau gan gyrraedd yr eglwys.

Saif yr eglwys ar dir a oedd unwaith yn ynys yn Llyn Ystumllyn. Yn ddiweddarach ail-gyfeiriwyd yr afon gerllaw fel bod y tir o amgylch yr eglwys nawr yn sych.

Gwr o dras tywysogaidd oedd Cynhaearn ap Cynwel a gychwynnodd ar fywyd mynachaidd yn dilyn marwolaeth ei dad dan law’r Sacsoniaid.

Ei frawd oedd Sant Aelhaearn sy’n gysylltiedig gyda Llanaelhaearn. Dywedir i Cynhaearn rwyfo allan i’r ynys ar Lyn Ystumllyn ac adeiladu ei eglwys o bosib yn y 5G.

Darllen yr holl stori a gweld lluniau a fideos - Taith Gerdded Pentrefelin


16.9.2024 Cwrs hyfforddiant ymwybyddiaeth nam golwg, Cyngor Gwynedd, Caernarfon

Daeth 14 o weithwyr gofal yng Ngwynedd i gwrs hyfforddiant ymwybyddiaeth i’w haddysgu sut i gydweithio gyda phobl sydd â nam golwg.

Arweinwyr y cwrs oedd Dafydd Eckley a Nick Thomas – y ddau yn gweithio i Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru.

Dechreuodd Dafydd drwy egluro fod o leiaf 400 o bobl yng Ngwynedd wedi eu cofrestru’n ddall neu’n rhannol ddall.

Eglurodd hefyd mai swyddogaeth Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru ydi gwneud y mwyaf o alluoedd gweledol pob cleient – yn blant ac oedolion.

Fe roddodd fanylion am rai o’r nifer o gyflyrau llygaid sy’n bodoli a’r cymorth sydd ar gael i bawb.

Eglurodd Nick am ei nam golwg ei hun gan ganmol gwaith gweithwyr adsefydlu’r Gymdeithas sy’n medru rhoi cymorth i bob cleient yn eu cartrefi eu hunain neu yn ein canolfan ar Stryd Fawr Bangor.

Dywedodd Nick: “Fe wnawn gynnig ein cymorth i bob unigolyn. Mae’n rhaid trin pob unigolyn yn wahanol.”

Dangosodd Nick a Dafydd y gwahanol offer sydd ar gael i bobl sy’n byw gyda nam golwg cyn rhoi cyfle i bawb oedd ar y cwrs i gael sesiwn ymarfer tywys person sydd gyda nam golwg drwy wisgo mwgwd.

Roedd ymateb pawb oedd ar y cwrs yn bositif iawn i’r hyfforddiant yng nghwmni Dafydd a Nick gyda phob un o’r farn eu bod wedi dysgu llawer yn ystod y teirawr.

Darllen yr holl stori a gweld lluniau a fideos - Cwrs hyfforddiant nam golwg


21.8.2024 Cylchdaith Carmel

Daeth 15 ohonom ar ein taith ddiweddaraf ar ein taith gerdded gylchol yn dechrau a gorffen ym mhentref Carmel uwchben Caernarfon.

Mae Carmel yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd, rhwng Groeslon a'r Fron.

Darllen yr holl stori a gweld lluniau a fideos - Cylchdaith Carmel


Murlun yn dangos nad oes dim yn rhwystr i blant a phobl ifanc sydd â nam golwg

Mae plant a phobl ifanc wedi dod at ei gilydd i baentio murlun sy’n adlewyrchu eu teimladau a’u profiadau o golli golwg.

O dan arweiniad yr arlunydd graffiti Andy Birch, aethant ati i ddefnyddio caniau i chwistrellu paent i greu graffiti yn swyddfa Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mangor.

Aeth y grŵp ati i gynllunio a phaentio murlun lliwgar sydd yn addurno’r ganolfan adnoddau ac yn croesawu pawb sydd yn ymweld.

Dywedodd un o aelodau’r grŵp, Lauren: “Dwi wedi mwynhau bod yn rhan o grŵp o sydd wedi  creu rhywbeth sy’n mynd i aros yna am byth. Syniad fi oedd gwneud gwenynen ar y wal oherwydd maen nhw’n gallu bod yn resilient ac i ddangos bod byw gyda nam golwg ddim yn gorfod bod yn rhwystr i neb gyflawni pethau.”

Darllen yr holl stori a gweld lluniau a fideos - Murlun Andy Birch


Betws-y-Coed i Llyn Elsi, Dydd Mercher, Gorffennaf 17, 2024

Roedd yr haul yn gwenu wrth inni fynd ar ein taith ddiweddaraf o Betws-y-Coed i Llyn Elsi.

Roedden ni wedi newid lleoliad y daith arfaethedig o Gapel Curig i Fwthyn Ogwen oherwydd bod y tywydd wedi bod mor wlyb yn ddiweddar a gallai’r llwybr hwnnw wedi bod yn rhy gwlyb a mwdlyd.

Roedden o’r farn y byddai’r daith hon i Lyn Elsi yn llawer gwell.

Darllen yr holl stori a gweld lluniau a fideos - Betws-y-coed i Llyn Elsi


Sesiynau dringo yn llwyddiant mawr

Roedd sesiynau dringo i blant a phobl ifanc yng nghanolfan Beacon, Caernarfon yn llwyddiant mawr gyda phawb wedi mwynhau.

Trefnwyd y digwyddiad gan Nick Thomas, swyddog datblygu gyda Chymdeithas Deillion Gogledd Cymru gyda chefnogaeth gan y Royal Society for Blind Children (RSBC) a Guide Dogs Cymru.

Roedd yn gyfle i blant a phobl ifanc sydd â nam golwg a’u teuluoedd i gyfarfod a’i gilydd a chael hwyl a rhannu profiadau a straeon.

Cynhaliwyd dau sesiwn – un ar gyfer plant rhwng 4-12 oed a’r llall i bobl ifanc 12-17.

Roedd y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant fel y bydd y Gymdeithas yn mynd ati i drefnu un arall yn y dyfodol.

Darllen yr holl stori a gweld lluniau a fideos - Sesiynau dringo


Hyfforddiant Ymwybyddiaeth i nodi Wythnos Gwirfoddolwyr

Cafodd dwsin o wirfoddolwyr hyfforddiant ymwybyddiaeth gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru.

Trefnwyd yr hyfforddiant yn arbennig gan y Gymdeithas fel rhan o wythnos gwirfoddolwyr Mehefin 3-9.

Roedd yr wythnos hefyd yn dathlu 40 mlynedd o wythnosau tebyg i ysbrydoli gwirfoddolwyr i wneud gwahaniaeth.

Yn ystod y sesiwn, cafodd y gwirfoddolwyr eu hyfforddi gan hyfforddwyr profiadol sut i dywys pobl â nam golwg ar hyd strydoedd dinas Bangor.

Cafodd yr hyfforddiant ei gynnal yng Nghanolfan y Crynwyr, Stryd y Deon, Bangor ddydd Gwener, Mehefin 7.

Mae gan y Gymdeithas dîm ymroddedig o wirfoddolwyr i’w helpu mewn amrywiaeth o rolau gwahanol.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan y swyddog ymgysylltu Bethan Sage Williams a’i arwain gan dau o’nm swyddogion adfer, Dafydd Eckley a Sara Milner-Jones.

Dywedodd Dafydd: “Roedd yna ymateb da iawn i’r hyfforddiant a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r gwirfoddolwyr am ymuno.

“Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan bwysig o waith y Gymdeithas ac yn ein galluogi i gynnal teithiau Clwb Cerdded Eryri, er enghraifft.”

Dywedodd prif weithredwr CDGC Steven Jones: “Mae ein gwirfoddolwyr hefyd yn rhoi cymorth inni gynnal clybiau cymdeithasol rheolaidd fel yr un a gynhelir yn fisol ym Mae Colwyn, er enghraifft.

“Rydym fel Cymdeithas yn falch ein bod wedi trefnu digwyddiad arbennig i nodi Wythnos Gwirfoddolwyr ac yn edrych ymlaen at gynnal rhagor o ddigwyddiadau yn y dyfodol agos.

“Mae croeso i unrhyw un fyddai’n hoffi ymuno gyda ni fel gwirfoddolwyr i gysylltu gyda ni.”


Lluniau o Ddiwrnod Gwybodaeth yn Venue Cymru, Llandudno fis Medi, 2022