Noddi Llyfr Llafar
Mae darllen yn rhywbeth y mae llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol. Mae’n ffordd o ymlacio, dianc, dychmygu a llawer mwy. I unigolion sydd â nam golwg ac i lawer o bobl eraill nad ydynt, am ba reswm bynnag, yn gallu darllen print, mae llyfrau llafar yn darparu mynediad i lyfrau a mwynhad ohonynt.
Un ffordd arbennig iawn y gallwch chi gefnogi GWRANDO yw noddi llyfr llafar. Gallwch noddi recordiad llyfr cyfan neu gyfrannu unrhyw swm tuag at lyfr fel y gallwn barhau i ddarparu llyfrau llafar Cymraeg i oedolion, plant a phobl ifanc.
Noddi llyfr i blant a phobl ifanc
I noddi llyfr i blant a phobl ifanc:
Ar gyfer plant hyd at 7 oed ~ £200
Ar gyfer plant 8 – 12 ~ £350
Pobl ifanc yn eu harddegau ~ £550
Noddi llyfr i oedolion
I noddi llyfr i oedolion:
£1,000 - £2,500 yn dibynnu ar faint y llyfr.
Neu unrhyw swm o'ch dewis tuag at gynhyrchu llyfr.
Lleisio Powell
“Fel actor, rwyf wastad wedi bod isio’r profiad o leisio nofel. Efo’r holl gymeriadau gwahanol sy’n tueddu i fod ynddynt, a’r ffaith fod angen i lais y storïwr ddiddori drwy gydol y darn mae’n her aruthrol; yn farathon, i actor.
Felly, mi ‘roeddwn i wrth fy modd pan ges i’r cyfle i leisio’r llyfr ‘Powell’ ar gyfer GWRANDO. Nid yn unig am fod y nofel ei hun gan Manon Steffan Ros yn un arbennig, ac efo neges bwysig iawn tu ôl iddi. Ond ‘rwyf hefyd yn falch iawn o gefnogi a chael bod yn rhan o’r gwaith arbennig mae GWRANDO’n ei wneud i bobl ifanc gyda nam golwg. O ran hynny, mae’n fraint cael helpu mwy o bobl i gael gwell mynediad at straeon Cymraeg fel hyn.
‘Roedd y profiad recordio’r un mor heriol ag oni wedi’i ddychmygu, ond eto’n lot o hwyl gan feddwl faint o gymeriadau diddorol y cefais leisio. Rwy’n hynod o ddiolchgar am y profiad, ac rwy’n gobeithio cai gyfle i weithio ar brosiectau tebyg eto yn y dyfodol”.
Siôn Eifion
Noddwyd yr actor yn garedig gan Theatr Bara Caws