Trawsgrifio Clywedol
Mae gan bawb sydd â nam ar eu golwg yr hawl i dderbyn gwybodaeth mewn fformat hygyrch.
Fel darparwr busnes neu wasanaeth, mae gwneud eich llyfrynnau, rhestrau prisiau a gwybodaeth gwasanaeth yn hygyrch yn golygu nad ydych yn eithrio eich darpar gwsmeriaid. Rydym yn cynnig gwasanaeth dwyieithog.
Ein gwasanaeth:
-
Rydym yn darparu gwasanaeth trawsgrifio dwyieithog o safon am bris hynod gystadleuol.
-
Gwasanaeth hyblyg ac effeithlon.
-
Mae’r stiwdio yn cynhyrchu cryno ddisgiau aml-fformat ar ddisg o ansawdd uchel wedi’i gorffen yn broffesiynol gyda lliw llawn ar argraffu’r corff.
-
Arbenigedd a dealltwriaeth o namau ar y golwg a hygyrchedd.
-
Darperir trosglwyddiad data diogel fel mater o drefn.
-
Staff gwybodus a chyfeillgar ar gael i gynnig cyngor rhagorol.
-
Hyder eich bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth.
-
Arddangos eich ymrwymiad cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol trwy gynnwys eich sylfaen cleientiaid yn llawn.
-
Trwy ddefnyddio ein gwasanaeth rydych yn cefnogi pobl â nam ar eu golwg yn eich cymuned leol.
Cleientiaid y gorffennol a'r presennol:
Camau nesaf:
I gael gwybodaeth bellach o sut y gallwn helpu, ffoniwch 01248 353604.
Neu e-bostiwch admin@nwsb.org.uk gyda'ch ymholiad. Cofiwch gynnwys y wybodaeth rydych chi angen i ni recordio.
*Hoffem gynnig 20% oddi ar eu harcheb gyntaf i gwsmeriaid newydd.
Awgrymiadau ar gyfer gwneud eich gwybodaeth yn hygyrch:
Gallwch chi helpu i wneud y wybodaeth rydych chi'n ddarparu yn fwy hygyrch trwy ddilyn y camau syml hyn:
-
Defnyddiwch faint ffont rhwng pwynt 16 a 24.
-
Defnyddiwch ddelweddau clir gyda chyferbyniad da ac amlinelliadau amlwg.
-
Ceisiwch osgoi defnyddio colofnau a bylchau anwastad.
-
Defnyddiwch bwysau argraffu arferol i sicrhau cyferbyniad da.
-
Peidiwch â defnyddio llythrennau italig na thanlinellu; defnyddio print trwm i amlygu testun allweddol.
-
Defnyddiwch gapsiynau bob amser i egluro delweddau.
-
Alinio'r testun i'r ymyl chwith bob amser heb indentiadau.
-
Defnyddiwch bapur mat o ansawdd da bob amser heb fod yn fwy nag A4 ar gyfer argraffu.