Plant ac Theuluoedd
Mae Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru’n cefnogi plant a phobl ifanc a’u teuluoedd.
Ein nod yw cefnogi pobl ifanc ddall a rhannol ddall i gysylltu â’u cyfoedion.
System mentoriaid
Mae gennym nifer o fentoriaid gwirfoddol sy’n rhoi arweiniad a sicrwydd i’w cyfoedion ieuengach. Mae eu cymorth a’u harweiniad yn amhrisiadwy. Maent yn fodelau rôl cadarnhaol sydd, eu hunain, wedi’u cofrestru’n ddall neu’n rhannol ddall.
Mae’r Mentoriaid yn rhoi’r cyfle i’r plant a’r bobl ifanc ofyn cwestiynau lletchwith a gallant weithio gyda’u cyfoedion ieuengach i ddatblygu hyder a sgiliau newydd.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01248 353604
Cronfa’r plant
Sefydlwyd cronfa’r plant i helpu i gwrdd ag anghenion plant â nam ar eu golwg, trwy ddarparu grantiau anghenion arbennig ac offer arbenigol.
Bydd nifer o deuluoedd gyda phlant ifanc â nam ar eu golwg wedi cael profiad o oedi maith a ffurflenni cais niferus wrth wneud cais am offer hanfodol megis system teledu cylch cyfyng neu feddalwedd cyfrifiadur arbenigol. Ein gobaith yw gallu denu digon o gefnogaeth i allu helpu i gwrdd â rhai o’r anghenion hyn.
Plentyndod a blynyddoedd yr arddegau yw’r blynyddoedd sy’n ffurfio’r dyfodol. Ein gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn fodd i ni roi i blant a phobl ifanc â nam ar eu golwg neu â nam difrifol ar eu golwg yr offer, y cyfleoedd a’r gefnogaeth y mae eu hangen arnynt i fod yn oedolion hyderus ac annibynnol.
Os teimlwch y gallwch helpu i gefnogi’r gronfa mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â Steven Thomas 01248 353604