Papurau Newydd Clywedol
Mae ein gwirfoddolwyr a’n Tîm Trawsgrifio Sain ymroddedig yn recordio a dosbarthu toreth o lyfrau cylchgronau a phapurau newydd llafar yn rhad ac am ddim.
Pe byddech yn dymuno derbyn unrhyw un o’r cyhoeddiadau a ganlyn, cysylltwch â’r Gymdeithas ar 01248 353604
Neu anfon e-bost i admin@nwsb.org.uk
Mae ein holl gyhoeddiadau sain ar CD ac MP3
CD o bigion newyddion pob pythefnos casgliad o straeon am newyddion lleol a godir o gylchgronau a phapurau newydd.
Mae hefyd yn cynnwys y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf o ran offer, gwasanaethau a chyfleoedd sydd wedi’u llunio’n benodol i bobl sydd wedi colli eu golwg.
Papurau newydd llafar Cymraeg – Mae ein tîm o ddarllenwyr gwirfoddol, ymroddedig yn recordio’r cyhoeddiadau a ganlyn pob mis i chi fwynhau gwrando arnynt. Papurau bro lleol Cymraeg yw’r teitlau i gyd.
-
Eco’r Wyddfa
-
Lleu
-
Papur Menai
-
Papur Dre
-
Y Ffynnon
-
Goriad
-
Y Gadlas
-
Y Glorian
-
Llais Ogwan
-
Yr Odyn
-
Llais Ardudwy
-
Goriad
-
Y Rhwyd
-
Yr Arwydd
-
Llafar Bro
*dolen i lawrlwytho yma y fersiwn ddiweddaraf o’r CD sydd ar gael bob pythefnos.
Gwerthfawrogwn eich adborth a’ch awgrymiadau i wella unrhyw un o’n gwasanaethau. Os ydych yn dymuno clywed cyhoeddiad penodol ar ffurf sain neu os oes gennych unrhyw sylwadau ar unrhyw un o’r recordiadau
Dyma gyfle i chi ddweud eich dweud YMA gwyn@nwsb.org.uk