Llyfrau Llafar i Oedolion
Ar gael mewn llyfrgelloedd nawr!

Ar Daith Olaf
Awdur Alun Davies
Darllenydd Eifion Lloyd Jones
Mae atgofion hunllefus achosion y gorffennol wedi gorfodi Taliesin i ymddeol fel ditectif. Mae e'n cyfrannu i bodlediad am Droseddau Gwir a phan fo linc i lofruddiaeth yn ei gyrraedd ef a Mari, y cyflwynydd, mae'n sylweddoli bod yna debygrwydd rhwng y weithred dywyll a'r hyn maen nhw wedi bod yn ei drafod ar Ffeil Drosedd. Ond pwy yw'r llofrudd a pham mae'n edrych i'r gorffennol?


Ffenest
Awdur Amrywiol
Darllenwyr Bethan Gwilym a Rhun ap Iorwerth
Wyth stori ar gyfer dysgwyr Cymraeg lefel Sylfaen gan rhai o awduron gorau Cymru yn cynnwys Bethan Gwanas, Guto Dafydd, Mared Lewis a Lois Arnold. Mae’n addas i ddysgwyr sy’n dilyn cyrsiau iaith y Gogledd a’r De.


Rhyngom
Awdur Sioned Erin Hughes
Darllenydd Elain Llwyd
Ceir yma wyth stori sy’n dangos inni werth rhyddid, ac sy’n dangos mai braint, ac nid hawl yw profi bywyd heb ffiniau. Ennillydd y Fedal Ryddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.


Dathlu!
Awdur Rhian Cadwaladr
Darllenydd Rhian Cadwaladr
Ar drothwy eu penblwydd yn 60 oed, mae pedair o ffrindiau oes yn mentro ar daith arbennig. Ond a hwythau wedi byw bywydau gwahanol iawn a fydd chwarae yn troi yn chwerw?


Rhedeg i Parys
Awdur Llwyd Owen
Darllenydd Cai Fôn Davies
Ar ôl darganfod eu bod yn disgwyl babi mae cwpwl ifanc yn dianc o Fôn a dechrau bywyd newydd yng Nghaerdydd. Yno caiff y darpar dditectif Sally Morris ei chyflogi gan y teulu i chwilio am eu merch a dechrau ar antur gyffrous a pheryglus sy’n ei harwain i isfyd tywyll y brifddinas, diwydiant twristiaeth Aberaeron ac i galon lwgr y mynydd copr.


Ar Lwybr Dial
Awdur Alun Davies
Darllenydd Eifion Lloyd Jones
Llygaid am lygaid, dant am ddant. Ydi pobol sydd wedi tramgwyo yn haeddu cael eu cosbi? Mae un llofrudd yn meddwl hynny. Dyna pam mae cyrff yn cael eu darganfod mewn amgylchiadau rhyfedd a gwaedlyd. A fydd Taliesin MacLeavy yn dal y llofrudd cyn i fwy o bobl garw?

Dewch i Mewn
Awdur Esyllt Maelor
Darllenwr Catrin Mara
Saith stori fer i ddysgwyr ar lefel Mynediad. Mae’r straeon yn sôn am bobol - y da, y drwg a’r dan din.


Lloerganiadau
Awdur Fflur Dafydd
Darllenwr Siân Teifi
Trysor o gyfrol o atgofion yr awdures amryddawn, fu erioed yn syllu tuag at y lloer. Mae cymaint mwy yn y gyfrol hon, hanes Silas Evans y seryddwr diymhongar o Aberystwyth; Christa McAuliffe yr ofodwraig, ac atomau golau y ffurfafen. Planed o gyfrol


Chwedeg
2022
Awdur Mihangel Morgan
Darllenydd Siân Teifi
Cyfres o straeon byrion yw 60, ond cyfres sy’n gweu at ei gilydd i greu darlun ehangach. Mae nhw’n cynnig cipolwg ar fywydau nifer o gymeriadau mewn tref fechan yng Nghymru rhwng 11 o’r gloch y bore a hanner dydd.

Mefus yn y Glaw
2022
Awdur Mari Emlyn
Darllenydd Gwen Davies
Nofel hwyliog a sensitif am gyfeillgarwch a sefyllfa merched hŷn. Rydym yn dilyn diwrnod ym mywyd Lili Daniels, awdures 50 oed, sy’n cael trafferth darganfod ei hawen a hithau’n ceisio ysgrifennu ei phumed nofel.


Pum diwrnod a Phriodas
2022
Awdur Marlyn Samuel
Darllenydd Bethan Gwilym
Novel gyfoes lawn hiwmor ag iddi linyn storïol cryf gan awdures boblogaidd. Daw dau deulu ynghyd mewn glân brodias dramor. Yn ddiarwybod, mae cwlwm eisioes yn bodoli rhwngddynt.

Ar Drywydd Llofrudd
2022
Awdur Alun Davies
Darllenydd Eifion Lloyd Jones
Nofel dditectif boblogaidd a thwyll wedi ei lleoli yn Aberystwyth. Ar ôl i gorff gael ei ddarganfod yn y twyni, mae ddau dditectif, Taliesin ac MJ, yn mynd ar drywydd y llofrudd.

Y Pumed Drws
2021
Awdur Sion Hughes
Darllenydd Elfed Williams
Hunanladdiad yw’r rheithfarn swyddogol yn dilyn darganfyddiad corf mewn ardal anghysbell ar arfordir Ynys Môn. Mae DI John yn amheus ac yn credu fod grymoedd cudd y seiri rhyddion ar waith. Twyll yr heddlu, cam-drin domestig, marwolaeth amheus…dyma ddirgelwch arall i’r heddwas maferic.