A- A A+

English

Hyfforddiant a Sgyrsiau Ymwybyddiaeth

Rydym yn cynnig cyngor a hyfforddiant fydd yn eich helpu i fod yn fwy ymwybodol o anghenion pobl ddall a rhannol ddall yn y gwaith ac yn gymdeithasol.

Darperir ein cyrsiau hyfforddi ar ymwybyddiaeth gan swyddog ailsefydlu cwbl gymwys sy’n gweithio ochr yn ochr â gwirfoddolwr sydd â nam ar ei olwg. Mae eu cyfuniad o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad yn arwain at raglen hyfforddi dreiddgar sy’n dwyn pobl i mewn ac y gellir ei theilwrio i gwrdd ag anghenion eich sefydliad.

Yn nodweddiadol, mae’r hyfforddiant yn cynnwys: ymwybyddiaeth golwg isel, technegau tywys person dall, cyflyrau’r llygaid, sgiliau cyfathrebu, cymhorthion ac offer arddangosiadau, cyngor ymarferol ac arweiniad.

Ar gyfer pwy mae hwn?

Gall pawb elwa o hyfforddiant ar ymwybyddiaeth golwg, deall mwy am anghenion pobl ddall a rhannol ddall. Rydym yn sicrhau fod y cyrsiau’n addas ar gyfer angen y cyflogwr - rydym wedi darparu hyfforddiant ar gyfer asiantaethau gofal, ysbytai, adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol, cartrefi preswyl, meddygfeydd, ysgolion ac ati

Adborth o’r cwrs

  • 20/9/17 - Gweithiwr ym Mharc Cenedlaethol Eryri - “cwrs goleuedig sydd wedi rhoi’r hyder i mi gynnig cymorth fel tywysydd i’r dall”

  • 20/9/17 - “Hyfforddiant gwych sy’n cynorthwyo i dynnu sylw at anghenion pobl ddall”

  • 16/10/16 - Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd– “Roedd y cwrs wedi’i gyflwyno’n dda ac yn ddefnyddiol iawn”

  • 16/10/16 - “wrth wneud gwaith ymarferol (cerdded gyda mwgwd dros fy llygaid) codwyd fy ymwybyddiaeth o faint o ffydd y mae’n rhaid i berson â nam ar ei olwg roi yn ei arweinydd”

  • 16/10/16 - “wrth fod â thiwtor dall oedd yn onest ac agored, rhoddwyd yr hyder i mi ofyn y cwestiynau lletchwith yr wyf wastad wedi bod eisiau eu gofyn”

Cysylltwch â ni

If you feel that you or your organisation could benefit from this service, or to find out how to book an awareness training course please contact Dafydd Eckley on 01248 35360 neu dafydd@nwsb.org.uk.

Grŵp Llun Sgyrsiau

Archebwch sgwrs ar gyfer eich sefydliad neu’ch ysgol.

Yn ogystal â’r cyrsiau hyfforddi ffurfiol, rydym hefyd yn ymweld ag ysgolion, colegau, grwpiau a chymdeithasau i godi ymwybyddiaeth a siarad am waith y Gymdeithas.

Mae ein gwirfoddolwyr yn tynnu oddi ar eu profiadau personol i roi sgwrs gyfareddol a diddorol sy’n procio’r meddwl ac y mae cynulleidfa wastad yn ei chanmol.

I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu sgwrs ar gyfer eich ysgol, cysylltwch â Steven Thomas ar 01248 353604 neu admin@nwsb.org.uk.