Adolygiadau Llyfrau Llafar
#Helynt gan Rebecca Roberts
Sylwadau gan Macs
Mae hi yn gallu bod yn haws gwrando ar y stori ar y cd. Wrth wrando ar y stori dwi’n gallu gwneud darlun yn fy meddwl o beth sy’n digwydd.
Mae ‘sgwennu mewn llyfrau yn gallu bod yn rhy fach i mi ddarllen, felly wrth wrando ar y stori yn cael ei darllen i mi dwi ddim yn rhoi straen ar fy llygaid a chael cur pen
Capten gan Meinir Pierce Jones
Sylwadau gan Gwilym Owen
“Diolch am y cyfle gefais gan Wendy a Patsy o’r Gymdeithas yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan i adolygu y llyfr Capten gan Meinir Pierce Jones a hefyd rhoi fy sylw ar y recordiad. Gobeithio fydd fy marn i fyny ar gofynion.
Er pan oeddwn yn blentyn yr wyf wedi bod yn hoff iawn o nofelau a oedd i wneud ar môr ai thonnau.
A dyma fi yn cael adolygu y nofel Capten ac yn un o’r cyntaf i wrando arni.
Mae’r nofel wedi hen afael arnaf. Wrth wrando fe gewch weld y stori’n datblygu a chael atebion i rai o’r cwestiynau isod.
Mae'r Capten sef gwr Elin Jones ar y môr am fisoedd lawer.
Elin sydd yn gofalu am bethau adra ac mae’n gyfnod anodd iawn i lawer un yn y cyfnod. Sut mae Lydia ac Adi ei merch yn mynd i dalu rhent?
Mae’n son am Elin yn trio rhai o’i ffrogia.
( os hyn oedd y ffasiwn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a oes ryfedd fod y dynion yn mynd i'r môr am fisoedd lawer!)
Mae Adi eisia mynd i'r môr ac mae'n helpu hen gapten i atgyweirio cwch a dysgu ganddo.
Beth ddigwyddodd ir mangl?
Cymerodd Elin hen wraig i ofalu amdani er mwyn cadw dau ben llinyn ynghyd. Beth gafodd Elin ar ôl ir hèn wraig farw.
Mae Elin yn cadw fisitors.
Pwy balodd yr ardd i Elin a sut un ydoedd?
A oedd Moses Dafis yn mynd i saethu hwyaid gwylltion hefo’r gwn dwbwl barel?
Cafodd Elin drip i New York i gyfarfod a'r Capten.
Mae'r Capten a’r criw yn wynebu stormydd garw.
At bwy ddaru’r Capten ysgrifennu'r holl lythyrau?
Yr wyf wedi wir mwynhau y nofel a'r darlleniad hwn.
Diolch i’r Awdur.”