Grantiau
Cronfa Grant Cyffredinol
Gallai’r gronfa grant cyffredinol roi grantiau o hyd at £100 i unigolion sydd wedi’u cofrestru fel unigolion â nam ar eu golwg neu â nam difrifol ar eu golwg sydd hefyd yn byw yng Ngogledd Cymru.
Gallai’r grant roi grantiau am eitemau sydd wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer pobl â nam ar eu golwg.
Meini prawf cymhwyso
-
Rhaid i unigolion fod dros 16 mlwydd oed (Mae gan Gymdeithas Gogledd Cymru gronfa creu grantiau ar wahân ar gyfer plant a phobl ifanc dan 16 mlwydd oed)
-
Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais am grant
-
Ni allwn ystyried ceisiadau heb ddatganiad cefnogi llawn a dyfynbris am yr offer neu’r hyfforddiant a ddarperir.
-
Byddir yn rhoi blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n derbyn budd-dal prawf – efaillai y byddwn yn ystyried ceisiadau oddi wrth unigolion nad ydynt yn cwrdd â’r meini prawf hyn yn ôl achos.
Rydym yn hapus i ystyried ceisiadau am:
-
Meddalwedd neu dechnoleg arbenigol, cymhorthion ac offer byw o ddydd i ddydd,
Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau am:
-
Gwyliau, gwelliannau i’r cartref yn cynnwys carpedi, cwcers neu offer cegin, setiau teledu,
Ymgeisio
Pe byddech yn dymuno ffurflen gais, cysylltwch â Chymdeithas y Deillion Gogledd Cymru ar 01248 353604 neu anfon e-bost i steven@nwsb.org.uk
Gweinyddir y gronfa gan Gyfarwyddwyr Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru. Byddir yn clywed ceisiadau am arian ar yr ail ddydd Mawrth yn y mis a rhaid i’r ceisiadau gael eu cyflwyno bum niwrnod ynghynt.
Cronfa’r plant
Sefydlwyd cronfa’r plant i helpu i gwrdd ag anghenion plant â nam ar eu golwg, trwy ddarparu grantiau anghenion arbennig ac offer arbenigol.
Bydd nifer o deuluoedd gyda phlant ifanc â nam ar eu golwg wedi cael profiad o oedi maith a ffurflenni cais niferus wrth wneud cais am offer hanfodol megis system teledu cylch cyfyng neu feddalwedd cyfrifiadur arbenigol. Ein gobaith yw gallu denu digon o gefnogaeth i allu helpu i gwrdd â rhai o’r anghenion hyn.
Plentyndod a blynyddoedd yr arddegau yw’r blynyddoedd sy’n ffurfio’r dyfodol. Ein gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn fodd i ni roi i blant a phobl ifanc â nam ar eu golwg neu â nam difrifol ar eu golwg yr offer, y cyfleoedd a’r gefnogaeth y mae eu hangen arnynt i fod yn oedolion hyderus ac annibynnol.
Os teimlwch y gallwch helpu i gefnogi’r gronfa mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â Steven Thomas ar 01248 353604.
Cronfa grant Dr Rhydian Fôn James
Roedd Rhydian Fôn James o Rhos-isaf, Caernarfon yn economydd rhanbarthol, academydd ac yn weithredwr gwleidyddol.
Roedd ganddo gyflwr dirywiol- niwrolegol effeithiodd ar ei olwg yn ystod cyfnod diweddarach ei fywyd. Ni ddiffiniwyd Rhydian gan ei anabledd, ac roedd wastad yn edrych am ffyrdd newydd ac arloesol i ddatblygu ei ddiddordebau academaidd a gwleidyddol.
Astudiodd Rhydian fathemateg ac economeg ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, ac fe’i gwobrwywyd â’i radd PhD gan Brifysgol Aberystwyth yn 2012.
Roedd yn gyd-sefydlydd y grŵp ‘The Broken of Britain’, grŵp a ymgyrchai dros hawliau i bobl anabl. Cafodd ei waith ymgyrchu effaith ddofn ar y mudiad dros hawliau i bobl anabl, mewn cyfnod pan ddaeth pobl anabl yn ganolbwynt mesurau toriadau’r Llywodraeth Glymblaid.
Bu farw Rhydian yn 31 blwydd oed ar y 12fed o Ionawr 2016 – yn sgil y teyrngedau aruthrol a’r cymorth derbyniwyd bu modd i Gymdeithas Gogledd Cymru sefydlu cronfa grant i gofio amdano.
Sefydlwyd cronfa Rhydian Fôn James i helpu darparu cyfarpar a hyfforddiant, a chymorth ariannol, i ganiatáu mynediad teg a chyfartal i addysg a hyfforddiant ar gyfer pobl ddall a phobl rhannol ddall.
Gobeithia’r gronfa gefnogi pobl ddall a rhannol ddall yng Ngogledd Cymru er mwyn hybu eu haddysg neu ennill cyflogaeth drwy ariannu neu gyfrannu tuag at gost cyfarpar arbenigol, hyfforddiant ac asesiadau.
Gobeithiwn bydd y gronfa yn parhau i roi grym i genedlaethau dall a rhannol ddall y dyfodol iddynt allu cyrraedd eu hamcanion a chyflawni eu dyheadau.
Meini Prawf i gymhwyso
-
Dylai unigolion fod dros 16 mlwydd oed. ( Mae gan Gymdeithas Gogledd Cymru grant ar wahân ar gyfer plant a phobl ifanc iau na 16)
-
Rhaid i ymgeiswyr llenwi ffurflen gais
-
Ni allwn ystyried ceisiadau heb ddatganiad cynorthwyol llawn a Dyfynbris gyfer y cyfarpar a’r hyfforddiant a ddarperir.
-
rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n derbyn budd-dal wedi’i brofi ar sail incwm – mae’n bosib y byddwn yn ystyried ceisiadau nad ydynt yn cyfarfod â’r meini prawf hyn achos wrth achos.
Yr ydym yn hapus ystyried ceisiadau ar gyfer:
-
Meddalwedd arbenigol, ffonau symudol wedi’u haddasu, embossers braille, hyfforddiant arbenigol, arddangoswr braille adfywiadwy, allweddell wedi’u haddasu, ayyb.
Pethau nad ydym yn ystyried ceisiadau ar eu cyfer:
-
Gwyliau, Gwelliannau yn y cartref gan gynnwys carpedi, poptai neu gyfarpar cegin, setiau teledu.
Ymgeisio
Os hoffech ffurflen gais, cysylltwch â Chymdeithas y Deillion Gogledd Cymru ar 01248 353604 neu e-bostiwch steven@nwsb.org.uk
Mae’r gronfa yn cael ei gweinyddu gan Gyfarwyddwyr Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru; Bydd ceisiadau am ariannu yn cael eu hystyried ar yr ail ddydd Mawrth o bob mis, ac mae’n rhaid iddynt gael eu cyflwyno pum diwrnod ynghynt.