Hanes
Sefydlwyd Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru yn 1882; digon yw dweud bod llawer wedi newid yn ein hanes, sy’n ymestyn dros 130 o flynyddoedd!
Mae gan y Gymdeithas archif enfawr o erthyglau papur newydd sydd o gymorth i ddangos y newid mewn agweddau, technoleg, cyfle a gwasanaethau.
Mae gwaith catalogio hanes Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru yn broses hir a hynod foddhaus - rydym yn chwilio am wirfoddolwr sydd â diddordeb mewn Hanes i barhau â’r gwaith pwysig hwn. Pe byddech â diddordeb mewn gweithio gyda ni ar y prosiect hwn, cysylltwch â Steven ar 01248 353604.
Mae stori’r Gymdeithas yn dechrau’r 5ed o Ionawr 1882 pan ddaeth grŵp bychan o wirfoddolwyr ynghyd dan arweiniad llywyddiaeth Esgob Bangor yn y gobaith o “ddysgu’r deillion i ddarllen er mwyn lleihau cymaint â bo modd ar undonedd eu bywydau oherwydd eu dallineb”.
Yr adeg hon roedd 35 o bobl ddall yng Nghaernarfon, 45 ym Môn a Bangor.
Yn ystod y cyfarfod penderfynwyd sefydlu cangen o Gymdeithas Addysgu Deillion Gartref, a rhoddwyd y dasg i fwrdd o 19 o wirfoddolwyr ffurfio’r Gymdeithas.
Penodwyd y gweithiwr cyntaf ganddynt, Mrs Catherine Ellis, a thalwyd iddi’r swm anrhydeddus o £60 y flwyddyn. Mrs Ellis oedd yr athrawes gartref gyntaf i weithio yn y gymuned. Yn yr un flwyddyn trawsgrifiwyd y Salmau i Braille gan y Gymdeithas ar gost syfrdanol o £73 (mwy na chyflog blwyddyn).
Erbyn 1895 roedd llyfrgell o lyfrau Braille wedi’i sefydlu a 450 o lyfrau wedi’u benthyca yn ystod y flwyddyn gan 173 o aelodau cofrestredig.
Y Rhyfel Byd Cyntaf – Gwaith wedi’r rhyfel
Mae adroddiad y cyfarfod cyffredinol blynyddol a gynhaliwyd yng Nghaernarfon yr 17eg o Ragfyr 1914 yn agor gyda’r geiriau “rydym yn cyfarfod heddiw dan gysgod rhyfel mawr, ac ar adeg o bryder mawr i bawb sy’n gyfrifol am ymddygiad diogel unrhyw gymdeithas ddyngarol oherwydd rhaid i angenrheidiau’r achos mawr ragori ar rai’r achosion llai”.
Ond er gwaethaf caledi, tyfodd gwaith y Gymdeithas ac erbyn 1917 roedd nifer o ddynion a ddallwyd yn y rhyfel wedi cael cymorth i ddysgu crefft.
Erbyn 1920 roedd y Gymdeithas wedi recriwtio pump o athrawon cartref ac wedi caffael ei adeilad cyntaf yn 75 Stryd Fawr, Bangor.
Ym 1920 pasiwyd y Ddeddf Personau Dall ac, o ganlyniad, dyfarnwyd i bobl ddall dros 50 oed bensiwn blynyddol bychan.
Ym 1923 cytunodd ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru i noddi’r Gymdeithas, anrhydedd a roddwyd i’r Gymdeithas hyd nes iddo gael ei wneud yn frenin ym 1936.
Ddiwrnod Nadolig 1929 gwnaeth Winston Churchill, oedd yn AS ar y pryd, apêl dros y radio am Gronfa Radio i’r Deillion. Cwblhaodd y Gymdeithas, ymlaen llaw, restr o bobl allai dderbyn radio. Yn sgil hyn, ychwanegwyd 500 o setiau newydd at yr ychydig oedd eisoes yn bodoli. Hyd heddiw, mae’r Gymdeithas yn parhau i weinyddu’r cynllun ar ran y Gronfa.
Yn yr 50fed Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol newidiwyd enw’r elusen yn swyddogol i Gymdeithas y Deillion Gogledd Cymru i adlewyrchu’r galwadau newidiol ar waith y Gymdeithas.
Cyflwynwyd y tocynnau bws cyntaf gan wasanaethau Crossville Motor a roes 60 tocyn oedd yn caniatáu i bobl ddall deithio radiws o 12 milltir am ffi fechan. Yr adeg yma, roedd 900 o bobl ddall yng Ngogledd Cymru.
Yr Ail Ryfel Byd
Wedi i’r ail ryfel byd gychwyn ym 1939, tyfodd gwath y Gymdeithas i ofalu am y milwyr hynny a ddallwyd yn ystod y rhyfel. Ym 1944 roedd 89 o faciwîs dall o’r dinasoedd mwy yn byw yng Ngogledd Cymru; pob un yn cael cefnogaeth gan y Gymdeithas.
Blaen siop Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru yn 224 Stryd Fawr, Bangor
Ym 1939, 224 Stryd Fawr, Bangor oedd Pencadlys Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru. Dengys y llun a ganlyn flaen siop gwahanol iawn i’r hyn yr ydym wedi arfer ag o heddiw! Yr adeg hon, roedd y Gymdeithas yn canolbwyntio ar addysgu sgiliau megis gwaith gyda gwiail.
Dengys toriad o bapur newydd o Orffennaf 1939 yn dwyn y teitl, “Problems of the Blind in Wales” y gwahaniaethau amlwg mewn agweddau a diwylliant yr adeg honno. Disgrifir yr “athro cartref i’r deillion” yn yr erthygl fel yr unig ffordd o “ymdrin â’r deillion”. Mae’n disgrifio rhan o’i rôl fel darparu “bwyd, glo a dillad” mewn achosion o galedi argyfyngus. Cyfeiria’r erthygl at y “dall anghyflogadwy” gan nodi bod 1157 ar “gofrestr y Bobl Ddall” bryd hynny.
Cyfeiria The North Wales Chronicle at 25 o faciwîs dall a gyrhaeddodd ym Mangor o Lerpwl ym Medi 1939. Rhoddwyd lle iddynt fyw yn Hostel Plas Menai ym Mangor, a sonia’r erthygl am y Gymdeithas yn helpu i ddarparu cylchgronau a gemau Braille.
At the time the Society was producing baskets, cane chairs, cribs, mats brushes and all manner of other handicraft work – the proceeds of which were used to provide grants and services under the most difficult of times.
Y blynyddoedd ar ôl y rhyfel
Erbyn blynyddoedd cynnar y 1950au roedd y canolbwyntio wedi symud i ddarparu grwpiau cymdeithasol ac ymgynnull i alluogi a dysgu. Nawr dechreuwn glywed am bregethwyr, beirdd, telynwyr, cerddorion ac adeiladwyr dall, Dechreuwn weld arwyddion o ddosbarthiadau garddio a thranc araf yn y gwaith mwy traddodiadol wrth i gystadleuaeth y siopau manwerthu mwy ddechrau gael effaith.
Ym 1962 dechreuwn weld dyfodiad gwasanaeth y llyfrau llafar, gyda 53 o aelodau yng Ngogledd Cymru yn derbyn llyfrau sain. Ym 1963, Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru oedd y sefydliad cyntaf i recordio llyfrau llafar Cymraeg. Crëwyd stiwdio ym Mangor wedi’i ymroi i recordio llyfrau Cymraeg.
Disgrifiwyd yr achlysur fel y datblygiad mwyaf i’r deillion ers i Louis Braille ddyfeisio ei system ysgrifennu, a hynny gan y person a dderbyniodd y llyfr cyntaf. Y llyfrau cyntaf i gael eu recordio oedd “William Jones” ac “O law i Law” gan T Rowland Hughes, a “Cysgod y Cryman” gan Islwyn Ffowc Ellis.
Mae poblogrwydd y llyfrau’n parhau i fod yn berthnasol heddiw. Mae gwaith y stiwdio’n parhau i gynhyrchu llyfrau, papurau newydd a chylchgronau llafar Cymraeg er eu bod ar CD ac MP3 yn hytrach nag ar gasét.
Ym 1969 symudodd y Gymdeithas i’w lleoliad cyfredol yn 325 Stryd Fawr. Ym 1972 rhyddhaodd y Gymdeithas ei 100fed rhifyn o’i phapur llafar wythnosol ac fe’i dosbarthwyd i dros 200 o bobl ddall a rhannol ddall.
Erbyn 1974, unwaith eto dechreuwn weld newidiadau diwylliannol gyda Y Cymro yn adrodd ar hanes Gareth Williams y dyfarnwyd iddo radd yn y Gyfraith. Cwblhaodd Mr Williams ei astudiaethau’n defnyddio Braille a recordiau casét o’i ddarlithoedd.
Ym 1977 gwelwn y ffôn botymau cyntaf gyda’r rhifau mewn llinell yn hytrach nag mewn cylch. Datganwyd bod y trobwynt hwn yn welliant arwyddocaol.
Ym 1978 bu farw Mr Thomas ap Rees o Fangor, perchennog cyntaf y ci tywys. Roedd Mr ap Rees yn gyn-filwr y rhyfel byd cyntaf a ddallwyd yn ystod y Rhyfel. Derbyniodd y ci tywys cyntaf erioed yn Hydref 1931.