Pwy Ydym Ni
Mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn darparu cefnogaeth ymarferol, gwybodaeth a chyngor i bobl ddall a rhannol ddall ledled Gogledd Cymru.
Trwy gydweithio gyda phobl ddall a rhannol ddall o bob oed, ymdrechwn i annog annibyniaeth, dewis a hyder wrth hefyd roi’r gwasanaethau hanfodol y dywed ein haelodau wrthym sy’n bwysig iddynt.
Yn yr adran hon ceir trosolwg o’r gwasanaethau a gynigiwn. Os hoffech wybod rhagor am unrhyw agwedd o’n gwaith, ffoniwch y llinell gymorth ar 01248 353604.
‘Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau gan gynnwys:
-
Cefnogaeth Ailsefydlu
-
Canolfan adnoddau a gwybodaeth
-
Gwasanaethau i blant a phobl ifanc
-
Trawsgrifiad clywedol
-
Clybiau a grwpiau
-
Grantiau
-
Cyngor technoleg ac cymorth
-
Llyfrau llafar Cymraeg a phapurau lleol
Mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn esblygu ac yn datblygu’n gyson. ‘Rydym yn eich annog i roi adborth a sylwadau ar unrhyw un o’n gwasanaethau. Gadewch i ni wybod hefyd am unrhyw wasanaeth yr hoffech ei weld yn datblygu yn y dyfodol.
Cliciwch yma i gael dweud eich dweud - Steven@nwsb.org.uk.