Adsefydlu
Mae gan y Gymdeithas dîm ymroddedig o Swyddogion Adfer sy’n gweithio yn adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol awdurdodau lleol Gwynedd ac Ynys Môn. I gael gwybod mwy am y tîm, cliciwch yma - cyfarfod â'r tîm.
Mae’r Swyddogion Ailsefydlu’n gweithio gyda phobl ddall a rhannol ddall i gefnogi, annog a datblygu sgiliau sy’n gwella diogelwch, hyrwyddo annibyniaeth, hyder a dewis.
Cynigiant asesiad cynhwysfawr yn y cartref neu’r Ganolfan Adnoddau sy’n helpu i adnabod y meysydd sydd o bwys i chi.
Mae ein tîm hynod brofiadol yn darparu – hyfforddiant, gwybodaeth a chyngor, ar ystod eang o feysydd gan gynnwys:
- Symudedd
- Sgiliau byw o ddydd i ddydd
- Cyfathrebu
I gael at y gwasanaeth hwn, cysylltwch ag adrannau perthnasol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn Ynys Môn neu Wynedd, trwy gysylltu â’r rhifau a ganlyn:
- Ynys Môn - 01248 752 752
- Gwynedd
- Bangor - 01248 363 240
- Llŷn - 01758 704 099
- Caernarfon - 01286 679 099
- Eifionydd - 01766 510300
- De Meirionnydd - 01341 424 499