A- A A+

English

Clybiau ac Grwpiau

Mae’r adran hon wedi’i neilltuo i’r clybiau a’r cymdeithasau sy’n cynnig gwasanaethau cyfeillach a chefnogaeth ledled Gogledd Cymru. I hysbysebu’ch grŵp yma, cysylltwch â Steven Thomas ar 01248 353604.

On this page you will find a list of all clubs and groups held throughout North Wales. The social groups offer a warm welcome with plenty of guest speakers and activity and it’s the perfect opportunity for blind and partially sighted people to go out and socialise

Clwb Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru

Rydym yn dod at ein gilydd mewn awyrgylch hamddenol yn 20 Station Road, Bae Colwyn bob 2il a 4ydd dydd Llun yn y mis, o 11am-1pm. Mae lluniaeth ar gael yn ystod y bore ac mae ein gwirfoddolwyr yn casglu archebion amser cinio.

Mae siaradwyr gwadd dod i’r clwb i roi sgyrsiau diddorol ac mae cerddorion lleol yn darparu adloniant. Pan fydd y tywydd yn braf rydym yn mentro  ar deithiau allan. 

Mae'r clwb yn gyfle perffaith i bobl â nam ar eu golwg ddod at ei gilydd i gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd.

Gellir trefnu cludiant a chinio i chi os oes angen. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Bethan ar 01248 353 604.

  • dyn a dynes yn sgwrsio
  • dyn a dynes yn sgwrsio hefo ci wrth eu hochr

9.12.24 Pawb yn mwynhau cinio Nadolig Clwb Bae Colwyn

Daeth dros 20 o aelodau Clwb Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru i fwynhau eu Cinio Nadolig blynyddol ddoe.

Fe wnaeth pawb fwynhau’r wledd oedd ar gael yng Ngwesty’r Orsaf (Station Hotel) ym Mae Colwyn.

Dywedodd un o’r trefnwyr, ein swyddog ymgysylltu Bethan Sage Williams: “Roedd hi'n hyfryd gweld pawb yn mwynhau eu hunain.

Mwy o wybodaeth a lluniau o'r Cinio Nadolig Clwb Bae Colwyn

Clwb y Gymdeithas Bae Colwyn

Fe gafodd y clwb  ymweliad gan yr Amgueddfa a  Chymdeithas Hanes Penmaenmawr ar y 27ain o fis Mawrth.  Roedd yn ddiddorol iawn gwrando ar hanes Pennmaenmawr a’r chwarel a chael  gafael mewn arteffactau hefyd.

Hoffwn groesawu aelodau ein grŵp cymdeithasol ym Mae Colwyn yn ôl wedi gwyliau’r Nadolig. Daethoch i gwrdd unwaith eto ynghanol y stormydd yn rhif 20 Station Road Bae Colwyn. Dechreuodd Polly'r arweinydd y cyfarfod trwy ofyn i bawb gyflwyno eu hunain. Roedd yn wych clywed eich straeon. Soniodd un aelod am yr amser pan oedd hi'n 100 oed a chael llythyr gan Brenin Charles. Wedyn fe eisteddom i llawr I gael panad a sgwrsio tan amser cinio.

  • Aelodau grwp
  • Aelodau grwp
  • Aelodau grwp
  • Aelodau grwp
  • Aelod grwp

Yn ddiweddar fe ddaeth Jason o gwmni Visionaids atom i’r clwb cymdeithasol ym Mae Colwyn. Fe ddangosodd sawl offer newydd sydd ar gael i helpu pobl efo nam golwg. Roedd yn gyfle da  i ofyn cwestiynau a thrio nhw allan. Hefyd daeth Marian o’r Gymdeithas Macwlaidd i weld y grŵp. Cawsom lawer o wybodaeth ddefnyddiol ac roedd pawb wedi mwynhau.

Os hoffech chi  ymuno a ni cysylltwch â Bethan 01248353604.

Dyddiadau Cyfarfodydd Clwb Deillion 2024

08/01/24
22/01/24
12/02/24
26/02/24

11/03/24
25/03/24
08/04/24
22/04/24

13/05/24
10/06/24
24/06/24
08/07/24

22/07/24
12/08/24
09/09/24
23/09/24

14/10/24
28/10/24
11/11/24
25/11/24

Cysylltiadau
Bethan - Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - 01248 353604
Polly – Trefnydd y Clwb - 07835259971

Clwb Cerdded Eryri

Hoffech chi ymuno a clwb cerdded sydd yn rhoi cyfle i adenill annibyniaeth, i droedio llwybrau gwahanol yn nghwmni ffrindiau newydd?

Mae yna griw o wirfoddolwyr gwych ar gael i gynnal sgwrs neu i gynnig help llaw wrth eich tywys ar hyd y llwybr.

Am fwy o wybodaeth Cysylltwch â Bethan ar 01248 353 604

04.12.24 Cinio Nadolig Clwb cerdded yn llwyddiant mawr

Daeth dros 30 o aelodau Clwb Cerdded Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru i fwynhau ein cinio Nadolig blynyddol heddiw.

Roedden nhw wedi teithio o bob rhan o’r Gogledd gan gynnwys siroedd Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy i ddathlu blwyddyn arall o gerdded gyda Chlwb cerdded Eryri.

Mae’r clwb yn agored i unrhyw un sydd â nam golwg. Maen gyfle i adennill annibyniaeth a throedio llwybrau gwahanol yng nghwmni ffrindiau newydd. Mae yna griw o wirfoddolwyr gwych ar gael i gynnal sgwrs neu i gynnig help llaw wrth dywys ar hyd y llwybrau.

Mae’r teithiau yn cael eu cynnal ar y trydydd dydd Mercher bob mis o’r flwyddyn ac mae yna fws gael i gludo cerddwyr a’u cŵn tywys o’n swyddfa ym Mangor i ddechrau’r daith ac yn ôl.

Mwy o wybodaeth a lluniau o'r Cinio Nadolig Clwb Cerdded

Taith gerdded Ty’n-y-Maes i Tregarth, Bethesda, 19.06.2024

Daeth 19 ohonom ar ein taith ddiweddaraf sef o Ty’n-y-Maes i Dregarth, ger Bethesda, Dyffryn Ogwen.

Dan arweiniad Mark Roberts a Kevin Phillips, fe gychwynon ni o Ty'n-y-Maes, dwy filltir i fyny'r A5 o Fethesda i gyfeiriad Llyn Ogwen.

Fe gerddon ni ar hyd hen ffordd Nant Ffrancon cyn ymuno â Lôn Las Ogwen.

Fwy o wybodaeth am daith cerdded Ty’n-y-Maes i Dregarth

  • Grwp cerdded gyda ei cwn Ty'n y Maes

Taith Gerdded i Rhyd Ddu - 15fed o Fai 2024

Taith gerdded hyfryd yn Rhyd Ddu – a chlywed y gog yn canu

Daeth criw mawr o aelodau’r clwb ar y daith ddiweddaraf i Rhyd Ddu – ble glywon ni’r gog neu’r gwcw yn canu.

Mae’r lluniau yn dangos aelodau Clwb Cerdded Eryri yn y man dechrau a’r diwedd wrth orsaf rheilffordd Rhyd Ddu.

Fwy o wybodaeth am daith cerdded Rhyd Ddu

  • Clwb Cerdded Eryri yn y man dechrau a’r diwedd wrth orsaf rheilffordd Rhyd Ddu.

Ynys Llanddwyn, Niwbwrch - Dydd Mercher 17 Ebrill 2024

Lluniau o’n taith diweddaraf i Ynys Llanddwyn. Trywydd ffafriol a pawb wedi mwynhau, gobeithio cael eich cwmni eto mis nesaf.

Castell Penrhyn - Dydd Mercher 20 Mawrth 2024

Taith ddifyr arall a pawb wedi mwynhau.  Diolch am eich cefnogaeth, gobeithio gwelwn chi i gyd mis nesaf.

 

Parti Nadolig Clwb Cerdded Eryri

Dyma rhai o luniau o barti Nadolig Clwb y clwb cerdded a gynhalwyd yng  nghlwb golff Bangor . Rydym yn edrych ymlaen at fwy o deithiau cerdded yn ystod 2024. Os ydych yn gwybod am unrhyw un a hoffai ymuno â ni ar ein teithiau cerdded rhowch alwad i Bethan 01248 353 604.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!

  • dwy ddynes a dyn yn eistedd wrth fwrdd efo crackers nadolig yn siarad
  • grwp o 8 o bobl yn eistedd wrth fwrdd gyda lliain bwrdd a cracers nadolig
  • gwobrau raffl - poteli gwin, siocledi a bisgedi
  • dyn a dynes gyda ffedog tu nol i fwrdd llawn bwyd yn rhoi bwyd ar blatiau i bobl

Dyddiadau Teithiau Cerdded 2024

17/01/24
21/02/24
20/03/24

17/04/24
15/05/24
19/06/24

17/07/24
21/08/24
18/09/24

16/10/24
20/11/24
18/12/24

Cysylltiadau
Bethan NWSB – 01248353604
Mark Roberts — 07760225408
Peter Evison — 07940533758