Fideos
7.1.25 Ymunwch gyda ni ar ein teithiau cerdded!
11.11.24 Hyfforddiant ymwybyddiaeth i’r Ymddiriedolaeth Afonydd
16.10.24 Blas ar gynnwys Y Rhwyd
Y Rhwyd yw papur bro gogledd-orllewin Ynys Môn, sy'n cynnwys Caergybi, Bodedern, Cemaes a Llanfechell.
Mae'r Rhwyd yn cael ei ddarllen bob mis gan wirfoddolwyr.
Mae eu darlleniadau nhw yn cael ei recordio gan Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind yn ein stiwdio ym Mangor.
Mae'r recordiadau CD o'r papur wedyn yn cael eu hanfon drwy'r post i unrhyw un sydd â nam golwg fydde'n dymuno gael fersiwn llafar.
Dyma flas o gynnwys papur mis Hydref – diolch i’r darllenwyr Gwyneth Jones a Margaret Davies o Ferched y Wawr, Cemaes.
Mae nhw hefyd yn awyddus i gael rhagor o bobl i wirfoddoli i ddarllen y papur a'i recordio.
Os oes ganddo chi ddiddordeb, cysylltwch a golygydd Y Rhwyd.
26.09.24 Diwrnod Agored, Y Ganolfan, Porthmadog
23.8.24 Stori ein murlun newydd yn cael sylw gan raglen ‘Prynhawn Da’, S4C
22.8.24 Cofio Dewi ‘Pws’ Morris – cyfaill da i’r Gymdeithas
21.8.2024 Cylchdaith Carmel
Murlun newydd Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru.
Mae plant a phobl ifanc wedi dod at ei gilydd i baentio murlun sy’n adlewyrchu eu teimladau a’u profiadau o golli golwg. O dan arweiniad yr arlunydd graffiti Andy Birch, aethant ati i ddefnyddio caniau i chwistrellu paent i greu graffiti yn swyddfa Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mangor.
Darllennwch yr holl erthygl am y murlun
Lluniau murlun 31.7.24