A- A A+

English

Plant a Phobl Ifanc

Ar gael mewn llyfrgelloedd nawr!

Powell

Powell

Awdur Manon Steffan Ros

Darllenydd Siôn Eifion

Nofel am berthynas taid a’i ŵyr Elis sy’n cyffwrdd ar bethynas Cymru gyda chaethwasiaeth a sut i gydnabod erchyllterau ein hanes mewn ffordd sensitif.  Wedi archwilio achau teulu maent yn mynd i Virginia yn yr Unol Daliaethau i aildroedio yn llwybrau Edward Powell.

 

Sion Eifion
clawr Sblash!

Sblash!

Awdur Branwen Davies

Darllenydd Carys Bowen

Ar gyfer darllenwyr rwng 10 – 13. Mae’n ymdrin â pherthynas rhwng plant ysgol a’r syniad o gorff perffaith. Mae Beca’n cael ei bwlio ond mae ganddi gyfrinach – mae’n gobeithio  cael ei dewis i dîm nofio Cymru.

Carys Bowen
Tomos Llygoden y Theatr a Feiolet Pot Blodau

Tomos Llygoden y Theatr a Feiolet Pot Blodau

Awdur Caryl Parry Jones a Craig Russell

Darllenydd Cath Aran

Fiolet Pot Blodau yw hoff lanhawraig y llygod ond mae hi yn ddynes glanhau waetha yn y byd! All Tomos a’i ffrindiau ddod o hyd i ffordd i gadw swydd Fiolet?

 

Cath
Ynyr Yr Ysbryd

Ynyr Yr Ysbryd

Awdur Rhian Cadwaladr

Darllenydd Rhian Cadwaladr

Llyfr hwyliog yn adrodd hanes Ynyr, ysbryd bach annwyl ac ofnus a fyddai ofn ei gysgod ei hun petai ganddo un!

Rhian Cadwaladr
clawr Fi ac Aaron Ramsey

Fi ac Aaron Ramsey

Awdur Manon Steffan Ross

Darllenydd  Tomi Llywelyn

Stori am Sam a’i ffrind gorau Mo ac yn rhedeg drwy’r llyfr – pel droed. Ceir yma brofiadau hapus ac annodd bywyd yn  cynnwys sut mae  Sam yn canfod yr hyder i drafod problemau, a’i dad yn dygymod a damwain ddifrifol ac yn i cael yr  hyder i ddysgu a siarad Cymraeg. I’r arddegau.

Tomi Llywelyn yn chwarae pel-droed

Tomi Llywelyn, darllenydd Fi ac Aaron Ramsey yn chwarae pel-droed

clawr llyfr sara mai

Sara Mai a Lleidr y Neidr

Awdur Casia Wiliam

Darllenydd  Casia Wiliam

Mae Sara Mai yn ei hôl! Mae pob math o anifeiliaid diddorol yn y sw gan gynnwyd neidr brin iawn. Ond pwy fyddai eisiau dwyn neidr? I blant  7-11. Yr awdur fydd yn darllen y stori.

Casia Wiliam

Casia Wiliam yn recordio Sara Mai

clawr Dewi Dwpsi a’r Aur

Dewi Dwpsi a’r Aur

Awdur Dewi Pws

Darllenydd  Dewi Pws

Mae Dewi wedi mynd ar ymweliad ysgol i fwyngloddiau aur Clogau, ger Dolgellau dim ond i ganfod fod yr holl aur wedi diflannu! Er mwyn datrys y dirgelwch rhaid iddo chwythu ei chwiban hud  i gael cymorth ei gyfaill Dwpsi’r ddraig ac Eryl yr eryr anferthol.  I blant 7-9.

Dewi Pws yn darllen Dewi Dwpsi a’r Aur

Dewi Pws yn darllen Dewi Dwpsi a’r Aur

Tomos Llygoden y Theatr a'r Nadolig Gorau Erioed

Awdur Caryl Parry Jones a Craig Russell

Darllenydd  Cath Aran

Mae hi’n Nadolig yn y theatre a phawb wedi gadael am y gwyliau heblaw am Noel y gofalwr. Mae Tomos yn poeni amdano ac yn cuddio ym mhoced ei siaced. Ond pwy yw’r ffrind cyfarwydd mewn cot goch mae Noel yn cyfardod ar y to?  I blant rhwng 4-8 oed.

Cath Aran

Cath Aran yn recordio

Clawr Llyfr Helynt

Helynt

2022

Awdur Rebecca Roberts

Darllenydd  Cath Aran

Llyfr i’r arddegau sydd wedi ei osod yn nhre’r Rhyl, ardal fwy Seisnegaidd, sydd tua allan i’r ‘Fro Gymraeg’ draddodiadol. Mae colli’r bws i’r ysgol yn newid bywyd Rachel am byth. Ennilydd gwobr Tir na-Nog a Llyfr y Flwyddyn 2021.

Cadi Goch a’r Ysgol Swynion

2022

Awdur Simon Rodway

Darllenydd Lois Meleri Jones

Dyma nofel gyffrous am Cadi, sy’n cael ei dewis i fynd i ysgol arbennig i ddysgu hud a lledrith. Ond pwy yw’r bobl ddrwg go iawn? Mae Cadi a’i ffrindiau yn defnyddio pob math o driciau i ddod o hyd i atebion. Addas i bob oed yn enwedig oedran 9-12!

Lois yn recordio Cadi Goch

Lois yn recordio Cadi Goch

Dewi Dwpsi a’r Dreigiau

2022

Awdur Dewi Pws

Darllenydd  Dewi Pws a Rhianon Roberts

Antur Dewi a Dwpsi – Eu hymgyrch, i gael hyd i bwy sydd wedi dwyn y ddraig goch oddi ar baner Cymru!  Addas i blant 7-9 oed.

Dewi Pws yn darllen Dewi Dwpsi a’r Dreigiau

Dewi Pws yn darllen Dewi Dwpsi a’r Dreigiau

Clawr Tomos

Tomos a Crechwen

2022

Awdur Caryl Parry Jones a Craig Russell

Darllenydd  Cath Aran

Llyfr arall am Tomos llygoden y Theatr gan Caryl Parry Jones.Mae cantores yn dod a’i chath slei blewod i’r theatre. A fydd Tomos yn gallu achub ei ffrindiau oddiwrth bawennau barus Crechwen y gath!

Y Bws Hud

Y Bws Hud

2021

Awdur Eurgain Haf

Darllenydd  Morfudd Hughes

Yma cawn hanes Mabli Mai, merch fach mor busneslyd mae’n ei chael ei hun ar fws yn llawn o bobl ryfeddol!  Addas i oedran 6+
Yn yr ail stori, cawn hanes O.M.B. (Orig Mwyn Benfawr). Mae Orig yn gawr, ond cawr caredig.

Clawr Cadi a’r Celtiaid

Cadi a’r Celtiaid

2021

Awdur Bethan Gwanas

Darllenydd Cath Aran

Mae Cadi ddireudus yn mynd i wersylla gyda’i theulu ger Bryn Celli Ddu yn Ynys Môn.  Mae hi’n cwrdd  a dau ffrind newydd o Oes y Celtiaid,  Cai a Heledd,  sydd yn ei dysgu am eu bywydau a sut i ddefnyddio ei synhwyrau.

Clawr Sw Sara Mai

Sw Sara Mai

2021

Awdur Casia Wiliam

Darllenydd  Casia Wiliam

Croeso i fyd Sara Mai, lle mae glanhau pw eliffant yn apelio lot mwy na mynd i’r ysgol. Mae hi yn rhannu hanes ei bywyd gyda ni, o’r jiraff sydd ofn uchder, i eiriau sbeitlyd amser chwarae, a’r frwydr i achub y peth pwysicaf yn ei bywyd. Addas i oedran 7-9.

Tomos Llygoden Theatr  + Tomos a'r Seren Fyd Enwog

Tomos Llygoden Theatr  + Tomos a'r Seren Fyd Enwog

2021

Awdur Caryl Parry Jones a Craig Russell

Darllenydd  Cath Aran

Mae Tomos yn byw mewn theatr. Un noson ni all un o sêr y llwyfan berfformio.  A fydd Tomos y llygoden hapus, brwdfrydig ac anturus yn gallu helpu?
Yn yr ail gyfrol  mae Tomos  wrth ei fodd pan ddaw ei hoff actor i berfformio. Ond mae trychineb!  A all Tomos achub y dydd?