A- A A+

English

Gwirfoddoli

Gwirfoddoli gyda ni

Mae tîm ymroddedig o wirfoddolwyr gennym  sy’n helpu’r Gymdeithas mewn amrywiaeth o rolau gwahanol, ac rydym bob amser yn edrych i ddenu pobl newydd i ymuno â’r tîm cyfeillgar.

Rhesymau dros wirfoddoli

Mae gan bob un o’n gwirfoddolwyr eu cymhellion eu hunain dros fod yn rhan o’r tîm – dyma rai o’r rhesymau pam y dylech gofrestru heddiw!

  • Cyfle i weithio mewn tîm cyfeillgar, i wneud ffrindiau newydd a chwrdd â grŵp amrywiol o bobl.

  • Cyfle i wneud cyfraniad amhrisiadwy i Gymdeithas y Deillion Gogledd Cymru.

  • Yr amser i ddatblygu eich hyder a'ch sgiliau rhyngbersonol.

  • Y gallu i gael profiad gwaith gwerthfawr i'w ychwanegu at eich CV ac i ddysgu sgiliau newydd

Os oes gennych unrhyw amser sbâr a diddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni a gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned, neu os hoffech fwy o wybodaeth am yr hyn y gallwn ei gynnig yna cysylltwch â Bethan yn y Gymdeithas ar 01248 353 602 neu bethan@nwsb.org.uk

 

Clwb Cerdded Eryri

“Rwy’n teimlo fy mod yn cael mwy o fudd o fod yn dywysydd na’r bobl rwy’n eu harwain. Nid yw bod allan yn yr awyr agored gyda chriw gwych o bobl byth yn anodd a byddaf bob amser yn dychwelyd adref yn teimlo'n hapus. Mae wedi gwneud i mi sylweddoli sut rwy’n cymryd fy ngolwg yn ganiataol a pha mor unig ac anodd y gall colli golwg fod. Mae rhoi ychydig o'r cymorth ychwanegol sydd ei angen yn werth chweil. Ymarfer corff a sgwrs braf. Beth sydd ddim i'w hoffi”

Bethan Roberts

2 berson yn eistedd ar wal ar ddiwrnod heulog

“Trwy fod yn wirfoddolwr gyda NWSB rydych chi'n rhoi ychydig (o'ch amser), ond rydych chi'n ennill llawer. Rydym wedi bod yn helpu ers tua 5 mlynedd, ac yn syml, mae'n bleser mynd am dro a sgwrsio am unrhyw beth a phopeth gyda phobl hyfryd. Mae o fudd i bob un ohonom, boed yn wirfoddolwr neu’n berson dall, i fynd allan i gymdeithasu yn amgylchoedd prydferth Gogledd Cymru”.

Leigh ac Eleri Roberts

Clwb Cymdeithas  Deillion Gogledd Cymru Bae Colwyn

“Fe ddes i gyda fy nhad ychydig flynyddoedd yn ôl. Roedd yn arfer mwynhau dod am sgwrs, a phan fu farw penderfynais ddod ar fy mhen fy hun i helpu. Mae'n wych cwrdd â phobl ac mae'n gwneud i mi deimlo'n dda. Rwy'n dod â fy ffrind i'r grŵp ac mae hi'n edrych ymlaen at y cymdeithasu. Rydyn ni i gyd yn cael hwyl fawr "

Karl

“Rwyf wedi bod yn helpu yn y clwb hwn ers tua 7 mlynedd yn ôl. Rwy'n gwneud y te ac yn gwirio bod yr aelodau'n iawn. Mae’n dda eistedd i lawr a chymysgu â’r aelodau. Byddwn yn bendant yn argymell y clwb i bobl eraill sydd wedi colli eu golwg oherwydd gallwch gael cymorth. Mae’r grŵp yn galonogol iawn ac rydw i’n elwa o ymuno.”

Pat