Stori Linda
Mae Linda (nid ei henw go iawn) yn ei 70au ac mae ganddi retinopathi diabetig a achosir gan lefelau siwgr gwaed uchel sydd wedi niweidio ei retina neu gefn ei llygad.
Meddai: "Rydw i wedi cael retinas datgysylltiedig ers blynyddoedd lawer a nifer o lawdriniaethau i geisio eu trwsio ond heb lwyddiant. "Mae pob munud o fy mywyd yn cael ei effeithio gan fy nam golwg. Mae bywyd yn broblem y funud rwy'n codi o'r gwely.” Dywedodd Linda ei bod wedi ei chael hi'n "anodd iawn” i roi'r gorau i’w gwaith.
Meddai: “Roedd yn gam mawr. Roedd fy swydd yn cynnwys llawer o deithio ac fe wnes i geisio lleihau fy oriau ond, yn y diwedd, doeddwn i ddim yn gallu ei wneud."
Meddai: "Mae Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru wedi bod o gymorth mawr i mi. "Roeddwn i wastad wedi gwybod am ganolfan y Gymdeithas yn Stryd Fawr, Bangor ond doeddwn i erioed wedi bod yno. "Doeddwn i erioed wedi meddwl ei fod i mi. Roeddwn i'n arfer cerdded ar ochr arall y ffordd pan oedd gen i rywfaint o olwg ac nid oeddwn erioed wedi meddwl y byddai'n unrhyw le y byddwn i'n ei ddefnyddio neu eisiau ei ddefnyddio. "Rhywsut roedd yna deimlad fy mod i'n cyfaddef fy mod wedi methu mewn ffordd pe bawn i'n cael fy ngorfodi i fynd yno. "Mae'r Gymdeithas wedi creu argraff fawr arnaf ac rwy'n golygu hynny mewn gwirionedd. Mae pawb yn y Gymdeithas o gymorth mawr imi, nid yn unig Nick fy mhrif gyswllt ond Steven, yr wyf wedi ei adnabod ers blynyddoedd a Bethan a Dafydd. Ni allaf roi digon o ganmoliaeth iddyn nhw am eu hymdrechion.”
Prif anhawster Linda oedd gofyn am help am y tro cyntaf.
Meddai: "Roeddwn i'n meddwl fy mod ar fy mhen fy hun am amser hir. "Ni allwn fod wedi llwyddo heb gymorth y Gymdeithas. Mae mor syml â hynny." Disgynodd Linda ychydig flynyddoedd yn ôl a dioddefodd doriadau dwbl i'w chefn a'i chlun.
Meddai: "Ers hynny rydw i wedi bod ofn disgyn. Mae unrhyw beth, camau nad wyf yn gwybod amdanynt neu unrhyw rwystr anhysbys i mi yn rhoi llawer o ofn ynof fi oherwydd ni allaf beryglu toriad arall. "Wrth gwrs, mae'r broblem nam golwg yn gwneud y toriadau yn fwy tebygol, felly mae'n rhaid i mi fod yn ofnadwy o ofalus sy'n fy ngwneud ychydig yn ofnus o wneud rhywbeth anghyfarwydd neu i fod mewn llefydd diarth. "Mae gen i ffon gerdded sy'n amhrisiadwy ac rwy'n mynd â fo efi fi bob tro ar deithiau."
Mae Linda yn ddiolchgar am ymyrraeth swyddog technegol y Gymdeithas, Nick Thomas, a’i helpodd gyda'i chlefyd siwgr.
Meddai: "Mae gen i ddiabetes math 1 a rhai blynyddoedd yn ôl daeth synhwyrydd ar gael sy'n mesur siwgr gwaed. "Cyn y synwyryddion hyn, roedd yn rhaid i chi bigo eich bys a rhoi eich gwaed ar stribed mewn dyfais i ddweud wrthych beth oedd y lefel siwgr gwaed. "Roedd yn broblem ac yn anodd pan oeddech chi mewn cwmni, er enghraifft, neu efallai allan yn cerdded ac nid oedd gennych y ddyfais fesur gyda chi. "Nawr, gyda chymorth Nick, mae gen i synhwyrydd gyda mi drwy'r amser ac yn ei fesur yn erbyn fy mraich a 'ping' - mae'n dweud wrthyf beth yw fy siwgr gwaed - mae mor hawdd."
Gosodwyd synwyrydd Linda yn yr ysbyty.
Mae angen ffôn clyfar i ddarllen y synwyryddion.
Dywedodd Linda: "Fe wnes i droi at Nick am gyngor ac fe ddeallodd yn syth beth oedd fy mhroblem. "Fe wnaeth fy helpu i ffitio ap ar fy ffôn symudol a oedd yn recordio'r siwgr gwaed yn awtomatig pan gafodd ei roi yn erbyn fy mraich. “Mae'n llythrennol ac yn achubwr bywyd. Deallodd Nick y sefyllfa ar unwaith a gosododd yr ap hon; ac nid yw erioed wedi symud o'r ffôn hwn. Nid wyf yn meiddio ei golli."
Meddai: “Mae swydd Nick yng Nghymdeithas y Deillion Gogledd Cymru yn gwbl anhepgor a'r canlyniad yw fy mod i'n cael fy siwgr gwaed yn cael ei fesur yn rheolaidd."
Meddai Linda: "Byddaf yn rhoi cynnig ar unrhyw beth - fel arfer heb lwyddiant - rwy'n sicr yn gêm! Rwy'n eithaf da am dyfu llysiau - dyna fy niddordeb.”
Cyngor Linda i unrhyw un yn ei sefyllfa yw: "Peidiwch â rhoi'r gorau iddi. Mae'n hawdd iawn, iawn syrthio i'r demtasiwn i roi'r gorau iddi. “Mae'n rhaid i chi barhau i fynd ar drywydd yr hyn rydych chi eisiau ei wneud - er hwyrach mewn ffordd wahanol."
