Stori Phill
Ganwyd Phill Jones yn 26 wythnos oed – yn pwyso 1 pwys 11 owns – llai na bag o siwgr. Bu’n rhaid iddo aros yn uned gofal arbennig i fabanod yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan am bedwar mis. Dim ond 19 oed oedd ei fam, Sonia, ar y pryd. Sylweddolodd ei deulu yn fuan iawn fod ganddo nam golwg. Oherwydd bod Phill wedi’i eni mor gynnar, d’oedd ei nerf optig heb ffurfio’n iawn. Mae ganddo hefyd nystagmus sy’n achosi i’r llygaid symud yn barhaol.
Meddai Phill: “Mae fy llygaid i’n symud ond dydio ddim yn fy effeithio i gymaint o ran be dwi’n ei weld. Pobl eraill sy’n ei weld.” Dydi Phill ddim yn medru gweld yn bellach na dwy fedr o’i flaen nac yn medru gweld bob ochr i’w lygaid. Mae’n defnyddio chwyddaduron i’w alluogi i ddarllen print a’i newid i faint 36.
Meddai Phill: “D’oes 'na ddim triniaeth i wella fy nghyflwr ond dwi’n gwybod eith o ddim gwaeth.” Yn fuan iawn cafodd Phill gymorth gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mangor a’u swyddogion Steven, Dafydd, Marian, Bethan a Nick. Nawr yn 21 oed, mae Phill, o Gaernarfon, yn ddyn ifanc positif a hyderus ac yn ddiolchgar iawn i’r Gymdeithas am barhau i roi cymorth iddo.
Meddai: “Mae’r Gymdeithas wedi bod yn help mawr imi yn fy mywyd ers blynyddoedd. “Maen nhw wedi fy ngalluogi i wneud grŵp o ffrindiau agos a chael annibyniaeth o ddydd i ddydd yn fy mywyd personol.” “Mae gen i ddiolch mawr i Steve, Dafydd, Nick a’r criw.” Ychwanegodd Phill: “Diolch i’r Gymdeithas, wnes i ddysgu llawr o sgiliau newydd - er enghraifft sut i deipio’n gywir a defnyddio rhaglenni fel Zoomtext ac eraill oedd yn galluogi imi ddarllen.” Cafodd Phill ei addysg gynradd yn Ysgol yr Hendre, Caernarfon cyn symud i’r ysgol uwchradd leol, Ysgol Syr Hugh Owen yn 2014 lle’r oedd ei fodryb Tania yn gweithio.
Meddai: “O ran fy addysg – mae Tania wedi bod yn help mawr.” “’Dwi di cael lot o help gan y teulu - i gyd yn gefnogol imi.” Yna daeth tro ar fyd i Phill. “Fe wnes i gyfarfod Elidyr Glyn oedd yn athro yn yr ysgol yn 2015 ac a oedd yn rhoi sylw un-i-un imi. Fe wnaeth Elidyr weithio gyda fi am ddwy flynedd.” Mae Elidyr yn fwyaf adnabyddus fel canwr y band Cymraeg poblogaidd Bwncath. Mae’r berthynas rhwng y ddau wedi para hyd heddiw ac maen nhw’n ffrindiau mawr.
Meddai Phill: “D’oes gen i ond diolch mawr o waelod calon i Gymdeithas y Deillion, Elidyr, Bwncath a phawb sydd wedi fy helpu dros y blynyddoedd.” Yn 2019 aeth Phill i’r Royal National College for the Blind yn Henffordd, Lloegr - dros 130 o filltiroedd - neu bedair awr - i ffwrdd o’i gartref yng Nghaernarfon. Dysgodd sut i fyw yn annibynnol ac ehangu ei sgiliau cyfrifiadurol. Ond d’oedd pethau ddim yn fêl i gyd.
Meddai Phill: “Oeddwn i’n teimlo’n unig. Oeddwn i’n teimlo fod pobl yn sbïo lawr arna’ i am fy mod i yn Gymro ac o’n i’n eu clywed nhw yn siarad amdana i yn Saesneg. Fi oedd yr unig un oedd yn siarad Cymraeg yn y coleg i gyd. “O’n i’n teithio adra bob penwythnos ar y trên ac yn edrych ymlaen yn fawr i ddod adra a siarad Cymraeg.” Yn 2021 gadawodd Phill y coleg yn Henffordd a dechrau gweithio fel derbynydd i gyfreithwyr Pritchard Jones a Lane yng Nghaernarfon. Yn ystod ei amser hamdden mae Phill yn chwaraewr pŵl a snwcer penigamp. Dechreuodd chwarae yn 10 oed gan gystadlu mewn twrnamaint y World Disability Billiard and Snooker a theithio i’r Almaen a’r Iseldiroedd. Ond nawr mae’n canolbwyntio ar ganu a chwarae gitâr.
Meddai: “Ar y penwythnosau, dwi’n gigio ac yn canu rownd tafarndai lleol.” Daeth hyn i fod, meddai Phill, oherwydd bod ei gyn-athro Elidyr Glyn wedi cael “dylanwad cerddorol mawr” arno. Mae hynny’n wir hefyd, meddai am ei fywyd bob dydd.
Meddai Phill: “Mi brynodd Elidyr gitâr i mi ar fy mhen-blwydd yn 18. Ar ôl hynny, mi ddywedais wrtha fy hun: ‘Reit, ma’ angen rhoi dy ben iddi ‘wan i ddysgu’r gitâr ‘ma’ - a dyna wnes i – treulio oriau ac oriau yn gwrando ar ganeuon Elidyr a Bwncath a’u dysgu yn araf bach.” Erbyn hyn mae Phill yn gigio’n rheolaidd ac yn canu caneuon gwerin gan fandiau ac artistiaid fel Bwncath, Bryn Fôn, Iwcs a Doyle a Gwilym Bowen Rhys.
Dywedodd Elidyr: “’Da ni dal yn dipyn o ffrindie. Fe helpais Phill i ddysgu chwarae gitâr ar y dechrau gyda’r chords a’r geiria’ ond mae o wedi datblygu lot ei hun. “Erbyn hyn mae’n gigio dipyn a dwi’n falch iawn ohono fo. “’R’on i wastad yn meddwl fod o’n gallu. Hyder ydi hanner y job, wedyn daw’r mwynhad. “Mae Phill wedi profi ei hun ac mae o wedi gwneud yn ffantastig.”
Meddai Nick Thomas, o Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru, sydd wedi bod yn gweithio yn agos gyda Phill: “Mae bod yn rhan o ddatblygiad Phill o fod yn fachgen ifanc swil i’r dyn ifanc hyderus mae o rŵan wedi bod yn bleser. “Mae ei agwedd tuag at ddysgu sgiliau newydd wedi bod yn gymorth mawr iddo fo gyda’i ddatblygiad. Mae bob tro yn barod i wrando ar gyngor ac adborth cyn mentro cymryd ei gam nesaf. “Mae Phill yn gymeriad cryf a hoffus sydd yn esiampl dda i blant a phobol ifanc gyda nam golwg ar sut i fyw bywyd gydag anabledd.”
Dywedodd prif weithredwr y Gymdeithas, Steven Thomas: “Mae wedi bod yn bleser adnabod Phill a’i weld yn datblygu dros y blynyddoedd. Mae'n glod i'w deulu. “Mae Phill wedi gweithio'n eithriadol o galed i oresgyn y rhwystrau a'r cyfyngiadau a osodir arno oherwydd ei nam golwg. “Mae wedi tyfu mewn hyder a gallu. Mae ei lwyddiant, ei annibyniaeth a'i wytnwch yn dyst i'w bersonoliaeth gref.
“Yn ystod y blynyddoedd mae'r Gymdeithas wedi bod yn hynod ffodus o fod wedi gallu gweithio gyda Phill i'w helpu ar hyd y ffordd i oresgyn yr anawsterau mae wedi’i wynebu gyda cholli golwg. “Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Phill ac i rannu ei stori yn y gobaith ei fod yn ysbrydoli eraill i beidio byth â rhoi'r gorau i'r pethau y maent am eu gwneud mewn bywyd. “O chwarae snwcer i ddysgu “touch typing”- i ddysgu chwarae'r gitâr a chael yr hyder i ganu yn gyhoeddus - Phill yw'r epitome o beidio â rhoi mewn, o addasu i oresgyn yr heriau a wynebodd yn sgil colli golwg a dod allan yr ochr arall gyda gwên. Dymunwn bob llwyddiant i Phill yn y dyfodol.”
Ychwanegodd cyflogwr Phill, Wyn Jones: “Mae hi’n bleser cael cyflogi Phill Jones yn nerbynfa Pritchard Jones Lane LLP. Mae gan Phill nam golwg ac mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru wedi bod yn hanfodol i’w gyflogaeth fod yn llwyddiant. Maent wedi darparu’r offer angenrheidiol i Phill gael gwneud ei waith heb anhawster drwy gyflawni sgrin fawr i Phill fel ei fod yn gallu gwneud apwyntiadau ac yn y blaen. “Mae Phill yn rhan annatod o’r tîm ac wedi gwneud ffrindiau gyda gweddill y staff a’r partneriaid yma.”