A- A A+

English

Cofio Dewi ‘Pws’ Morris – cyfaill da i’r Gymdeithas

Diolch yn fawr iti Dewi Pws

Fe’n tristawyd ni oll fel staff Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru o glywed am farwolaeth Dewi Pws Morris.

Roedd yn gefnogol i’r Gymdeithas a’r gwaith rydym yn ei wneud i roi cymorth i bobl sy’n byw gyda nam golwg drwy Ogledd Cymru.

Byddwn yn ei gofio gyda hoffter fel gwestai yn ein cyfarfod blynyddol.

Dywedodd uwch swyddog adsefydlu'r Gymdeithas, Dafydd Eckley: “Diddanodd gyda chan a’ hiwmor unigryw drygionus. Cymerodd amser a diddordeb wrth siarad â’n haelodau.

“Roedd yn brynhawn cofiadwy, llawn hwyl, wedi’i fwynhau gan bawb. “Bydd colled fawr ar ei ôl,”

Roedd Dewi hefyd yn awdur llyfrau plant. Daeth i stiwdio Gwrando'r Gymdeithas yn ein swyddfa yn Stryd Fawr, Bangor i leisio dau lyfr a ysgrifennodd gyda’i briod Rhiannon Roberts sef Dewi, Dwpsi a’r Ddraig a Dewi, Dwpsi a’r Aur.

Daeth a’i ukulele gyda fo gan gwblhau’r gwaith lleisio yn hwyliog a phroffesiynol.

“Diolch a chwsg yn dawel, Dewi.”

  • Dewi Pws a Dafydd Eckley
  • 2 pobl yn gwennu ar y camera
  • dewi yn chwarae y gitar
  • dau dyn ag gitar