Cylchdaith Carmel
DAETH 15 ohonom ar ein taith ddiweddaraf ar ein taith gerdded gylchol yn dechrau a gorffen ym mhentref Carmel uwchben Caernarfon.
Mae Carmel yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd, rhwng Groeslon a'r Fron.
Saif wrth droed Mynydd y Cilgwyn.
Mae’r ardal yn gyforiog o hanes a cheinciau’r Mabinogi, tywysogion, ei llynnoedd ac ôl diwydiant a’r chwareli.
Datblygwyd y pentref fel man i weithwyr chwareli llechi'r ardal fyw.
Enwyd y pentref ar ôl capel y Methodistiaid Calfinaidd a sefydlwyd ym 1827.
Cafodd y capel ei enw o'r enw beiblaidd Mynydd Carmel.
Gan ddechrau yng Ngharmel, fe gerddon ni i fyny i hen chwarel Cilgwyn a drowyd yn safle tirlenwi gwastraff rai blynyddoedd yn ôl ond sydd bellach wedi’i gau.
Roedd golygfeydd gwych uwchben Talysarn a chwarel Dorothea a Llyn Nantlle a draw i Fae Caernarfon.
Roedd yn bosib hefyd gweld Crib Nantlle a Drws y Coed drwy’r awyr lwyd.
Fe gerddon ni ar hyd yr hen ffordd i bentref Y Fron a chael lloches groesawgar yn Y Ganolfan yno a chael cinio, diodydd poeth a defnyddio’r cyfleusterau.
Ar un adeg roedd Y Fron wedi ei amgylchynu gan chwareli Pen-y-bryn, Pen-yr-Orsedd, Cilgwyn, Dorothea, Talysarn, Braich, Yr Hen Fraich, yr Hen Fron, Bryn Fferam, Moel Tryfan ac Alexandra.
Fe adawon ni’r Fron a throedio ar hyd y ffordd tuag Rhosgadfan cyn cymryd y troad tuag at dreflan Bryn a dychwelyd i Garmel lle'r oedd bws Dilwyn yn aros amdanon ni,
Roedd y daith gylch hon yn oddeutu pedair milltir a’r arweinwyr y tro hwn oedd
Alun a Bethan Roberts.
Rydym yn trefnu teithiau cerdded ar y trydydd dydd Mercher ymhob mis.
Mae croeso arbennig i unrhyw un sydd ag unrhyw nam golwg i ymuno a ni.
Os oes diddordeb gyda chi – ffoniwch Bethan ar 01248 neu anfonwch at admin@nwsb.org.uk