Basged (0) Mewngofnodi

Hysbysiad ar gyfer ein taith gerdded nesaf ddydd Mercher, Tachwedd 6, 2024

Taith Gerdded Gylchol Llanberis

Oherwydd rhagolygon tywydd anffafriol bu'n rhaid canslo'r daith gerdded arfaethedig wythnos diwethaf i Aberffraw, Ynys Môn.

O weld bod cinio Nadolig ein grŵp cerdded ar ddydd Mercher, Rhagfyr 4 (manylion a bwydlen i ddilyn yn yr wythnosau nesaf), rydym wedi penderfynu dod â’n taith gerdded nesaf ymlaen ychydig wythnosau i ddydd Mercher, Tachwedd 6.

Eurwyn Thomas, gwirfoddolwr yn y grŵp, fydd yn arwain y daith gerdded o amgylch Llanberis.

Bydd yn gylchdaith o tua 4 milltir ar yr hyn a fydd yn bennaf yn llwybrau tarmac.

Byddwn yn cychwyn ein taith gerdded yn y maes parcio ger y cerflun 'Llafn y Cewri' am 11:00yb.

Gan fynd yn rhannol o amgylch Llyn Padarn, byddwn yn gwneud ein ffordd tuag at Amgueddfa Lechi Cymru lle mae byrddau picnic a thoiledau.

Dyma lle byddwn yn cael ein egwyl ginio.

Ar ôl cinio byddwn yn parhau â’n taith gerdded heibio hen Ysbyty Chwarel Dinorwig gan wneud ein ffordd heibio i Gastell Dolbadarn sy'n adeilad Gradd 1 rhestredig a adeiladwyd ar ddechrau’r 13eg ganrif gan Lywelyn Fawr, gan gwblhau ein taith gerdded yn y maes parcio lle cychwynasom.

Bydd cludiant yn cael ei ddarparu gan Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind gan adael Bangor am 10:30yb a dychwelyd i Fangor tua 15:00yp.

A fyddwch mor garedig â rhoi gwybod i ni erbyn canol dydd dydd Mercher nesaf Hydref 30 os ydych yn bwriadu ymuno â ni ym Mangor neu os byddwch yn gwneud eich ffordd eich hun i Lanberis.

Drwy roi gwybod i ni erbyn y dyddiad hwn, gallwn wneud trefniadau i weld faint o dywyswyr y byddwn ei angen.

Ein cyswllt symudol ar y diwrnod yw 07949 996405

Edrych ymlaen i'ch gweld chi gyd.

Byddwn yn gohirio’r daith os bydd tywydd garw.

Os bydd angen i ni wneud penderfyniad i ganslo, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost a neges destun erbyn 6yh ar y noson cyn y daith gerdded.

Wrth ymateb i'r hysbysiad hwn, a allech gynnwys rhif ffôn symudol lle gallwn anfon negeseuon testun os gwelwch yn dda.

Mae’n bwysig, os ydych yn bwriadu ymuno â ni, eich bod yn rhoi gwybod i Bethan cyn gynted â phosibl fel y gallwn drefnu’r tywyswyr priodol ar bethan@nwsb.org.uk neu 01248 353604.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod i ni:

1. A fyddwch chi'n ymuno â ni ar y daith gerdded?
2. A oes unrhyw un yn dod gyda chi?
3. Oes angen gwirfoddolwr tywys â golwg arnoch chi?
4. Eich rhif ffôn symudol.
5. Ble byddwch chi'n cwrdd â'r grŵp?

  • Blade of the Giants sculpture with a black sky in the background