Stori Sara Mai a Cwis Mawr y Plant am ddim i blant Cymru
Bydd miloedd o blant ledled Cymru yn cael y cyfle i glywed stori ar CD sydd wedi ei hysgrifennu’n arbennig ar gyfer y deillion.
Mae’r stori, Sara Mai a Cwis Mawr y Plant, wedi ei recordio’n arbennig gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru (CDGC) i ddathlu 10 mlynedd o recordio llyfrau llafar Cymraeg i blant a phobl ifanc.
Bydd CD o’r stori yn cael ei hanfon yn rhad ac AM DDIM i’r 1,200 o ysgolion cynradd yng Nghymru – diolch i haelioni’r Gymdeithas a charedigrwydd y Swyddfa’r Post.
Mae’r stori yn dechrau gydag un diwrnod arbennig yn hanes Sara Mai pan mae ei athro, Mr Parry, yn cyhoeddi i’r ysgol bod rhaglen deledu Cwis Mawr y Plant yn dod i ffilmio yno – ac mai anifeiliaid fydd y pwnc dan sylw.
Wrth gwrs, caiff Sara Mai ei dewis i gynrychioli’r ysgol, ond ai hi fydd seren y sioe, neu a fydd Rhodri, y cystadleuydd arall yn cipio’r wobr?
Mae’r stori wedi ei hysgrifennu gan Casia Wiliam – sydd hefyd yn ei darllen ar y CD.
Dywedodd Casia: “Pleser mawr oedd cael rhoi antur arall i Sara Mai a'i ffrindiau, a'r tro hwn mewn stori arbennig i gael ei recordio ar lafar yn unig gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru.
"Yn yr antur hon mae Sara Mai yn ddod yn ffrindiau gyda bachgen o'r enw Rhodri sydd â nam golwg, ac wrth iddynt dod yn fwy o ffrindiau mae Sara yn mynd ati i feddwl am ffyrdd o wneud Sw Halibalw yn le mwy cyfeillgar i rai sydd â nam golwg. Gobeithio y bydd y plant i gyd yn mwynhau gwrando ar y stori."
Dywedodd prif weithredwr CDGC, Steven Thomas: “Mae’r stori hyfryd hon gan Casia Wiliam wedi cael ei chomisiynu yn arbennig gan wasanaeth GWRANDO Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru i ddathlu 10 mlynedd ers inni ddechrau cynhyrchu llyfrau llafar i blant a phobl ifanc.
“Mae’r gwasanaeth GWRANDO yn cyhoeddi 24 o lyfrau llafar bob blwyddyn – eu hanner ar gyfer pobl ifanc.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i Casia am ysgrifennu a lleisio’r stori wych yma ac yn edrych ymlaen at dderbyn rhagor o adborth gan ysgolion.
“Nid yw’r llyfr yma ar gael mewn print ond ar ffurf llyfr llafar (audio book) yn unig.
“Mae’r Gymdeithas yn awyddus iawn i gydweithio gydag ysgolion cynradd ledled Cymru i ddarparu llyfrau llafar i blant.
“Nid yn unig mae’r stori o fudd i blant sydd â nam golwg ond rydym ni’n gweld rhagor o blant sydd yn ei chael hi’n anodd darllen print neu rieni sydd eisiau dysgu Cymraeg er mwyn siarad gyda’u plant.
“Mae’r Gymdeithas wedi bod yn cydweithio’n agos iawn gyda chyhoeddwyr llyfrau ers nifer o flynyddoedd. Rydym yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am roi cytundebau inni fedru cynhyrchu eu teitlau.
“Mae cyfres Sara Mai yn hynod o boblogaidd ac yn rhan o ystod mwy o lyfrau sydd ar gael i’w prynu gan wasanaeth GWRANDO Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru.
“Edrychwch ar ein catalog neu ewch ar ein gwefan i gael gwybod mwy.”
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Patsy West, Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru, 325 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd, LL57 1YB 01248 353604 neu gwrando@nwsb.org.uk
Llun: Casia Wiliam, awdur sydd hefyd yn lleisio stori Sara Mai a Cwis Mawr y Plant
Linc Fideo: Casia Wiliam yn siarad am stori Sara Mai a Cwis Mawr y Plant

