A- A A+

English

50 yn derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth gan Gymdeithas y Deillion

Daeth 50 o staff Coleg Grŵp Llandrillo-Menai ar gwrs hyfforddiant ymwybyddiaeth a gynhaliwyd yn safle’r coleg ar Barc Menai, Bangor yr wythnos yma.

Arweinyddion y cwrs oedd Dafydd Eckley, uwch swyddog adfer a Nick Thomas, swyddog datblygu gyda Chymdeithas Deillion Gogledd Cymru.

Pwrpas y cwrs oedd dysgu sut i fod yn fwy ymwybodol o’r gwahanol gyflyrau nam golwg a’r effaith y maen nhw yn eu cael ar bob unigolyn mewn gwahanol ffyrdd.

Rhoddodd Dafydd ystadegau i ddangos fod 1.7 miliwn o bobl gyda nam golwg yn byw yn y Deyrnas Gyfunol a 20,000 yng Nghymru.

Eglurodd y gwahanol gyflyrau yn cynnwys glawcoma, cataracts, retinopathi diabetig a dirywiad maciwlaidd.

Soniodd am waith y swyddog adfer ac am y broses gofrestru a chyfeirio a’r gwasanaethau buddiol a gynigir gan y Gymdeithas gan gynnwys ein canolfan adnoddau yn Stryd Fawr, Bangor.

Dywedodd Dafydd fod rhai pobl wedi disgrifio colli eu golwg fel profiad tebyg i’r broses galaru.

Disgrifiodd Nick Thomas ei siwrne nam golwg ei hun a’i ddiagnosis yn 19 oed – pan mae ei brif ddiddordebau oedd gyrru ceir a chwaraeon.

Dywedodd: “Roedd fy ngolwg yn gwaethygu.”

Cafodd ddiagnosis fod ganddo Stargardt macular dystrophy - math o ddirywiad maciwlaidd.

“Roedd yn dipyn o glec i’r hyder,” meddai. “Dechreuodd pob dim gael ei dynnu oddi arnai. Fe es i drwy gyfnod o wadu; yna dicter a pam fi?”

Dywedodd Nick fod chwaraeon wedi ei helpu i ddelio efo’i sefyllfa.

“Hynny a’r cymorth a gefais gan Dafydd ac aelodau eraill tîm adfer y Gymdeithas – doeddwn i ddim yn gwybod be oedd yn mynd i ddigwydd.

“Ein neges bositif, ein mantra yw: ‘Mae yna fywyd ar ôl colli golwg.”

Cafodd aelodau’r cwrs wedyn wisgo sbectolau arbennig i efelychu’r gwahanol gyflyrau cyn gwisgo mwgwd a derbyn cyngor ar sut i arwain person dall yn gywir gan roi disgrifiadau clir iddyn nhw o’r rhwystrau a’r awyrgylch o’u cwmpas.

Trafodwyd yr adnoddau a chefnogaeth sydd ar yn lleol a chenedlaethol gan gynnwys cŵn tywys a’r diweddara mewn sbectolau tebyg i sbectol Ray-Ban Meta.

Cytunodd pawb oedd yn bresennol eu bod wedi dysgu llawer o fod ar y ddau gwrs undydd. 

Ychwanegodd Dafydd a Nick eu bod nhw a’r Gymdeithas yma ac ar gael i unrhyw un ar draws y Gogledd a’r canolbarth os oes unrhyw un eisiau cymorth.

Os hoffech chi archebu hyfforddiant ymwybyddiaeth ar gyfer eich cwmni, asiantaeth, awdurdod neu eich cymdeithas chi, ffoniwch ni 01248 353604 neu admin@nwsb.org.uk neu galwch mewn i’n canolfan adnoddau yn 325, Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd LL57 1YB.


Deillion: Hyfforddiant ymwybyddiaeth staff Coleg Llandrillo Menai

Bangor 1

Bangor 2

Bangor 3

Bangor 4