Arddangosfa a Diwrnod Agored
Fe wahoddwyd aelodau, ffrindiau a theulu i ymuno â ni ar ein hail Ddiwrnod Agored yng Ngwesty’r Royal Oak yn y Trallwng yn Medi.
Roedd yn gyfle i bobl ofyn cwestiynau am y gwasanaethau rydym ni a sefydliadau eraill yn eu darparu, ac i leisio unrhyw sylwadau.
Roedd dros 25 o arddangoswyr lleol a chenedlaethol wedi ymuno â ni yn arddangos ystod eang o dechnoleg a gwasanaethau diweddaraf ar gael i bobl sydd efo nam golwg .
Roedd pawb wedi mwynhau’r diwrnod ac yn edrych ymlaen at y nesaf .
Bethan Sage Williams





