Bayside Radio yn ymweld â Chlwb Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru Bae Colwyn
Daeth dros 25 o aelodau’r clwb ynghyd ym Mae Colwyn heddiw ar gyfer recordio rhaglen gyda Bayside Radio.
Mae’r clwb yn cyfarfod pob ail a phedwerydd dydd Llun yn y mis yn @20, Ffordd yr Orsaf, Bae Colwyn.
Mae’n agored i bawb sydd â nam golwg ac yn cynnal sgyrsiau a gweithgareddau i bawb sy’n galw draw.
Mae’n glwb cymdeithasol a chroesawgar iawn hefyd ac mae gan bawb wastad amser i gael sgwrs, rhannu profiadau a mwynhau te a choffi a chacen neu ddwy!
Mae’r clwb yn cael ei redeg gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru gyda chydweithrediad nifer o wirfoddolwyr.
Heddiw daeth Jeff Pearson a Simon Wynn o Bayside Radio i holi rhai o gynrychiolwyr y clwb am eu gwaith.
Ymysg y rhai gafodd eu holi oedd Hywel Trewyn, swyddog cyfathrebu Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru, Chris Gould, offthalmolegydd cartref, Roxi Anderson, Swyddog Cyswllt Gofal Llygaid a dau o aelodau’r clwb, Menna Jones a Bobbie Boothroyd.
Dyma linc i’r rhaglen a ddarlledwyd yn fyw heddiw, rhwng 12 ac 1yp.
- dyn yn gwysgo headphones wrthyml dyn arall
- dyn yn cyfweilio
- grwp yn ei cyfarfod
- y grwp yn eistedd o amgylch byrrdau
- dynion yn siarad wrht eistedd ar y sofa
- merched yn siarad wrth gael panad o de
- dynes yn rhoi allan tyweli papur
- merched yn eistedd oamgylch bwrdd
- pobl yn cael panad a chacen
- dyn a dynes mewn caffi yn gwenu