Bethan yn dangos sbectol newydd Meta
Cawsom newid bach i’n sesiwn celf a chrefft heddiw.
Dangosodd Bethan y sbectol Meta newydd.
Gall y sbectol yma ddisgrifio beth sydd o’ch cwmpas, darllen testun i’w glywed, adnabod gwrthrychau ac ateb cwestiynau, sy’n gallu bod yn ddefnyddiol iawn i bobl sy’n byw gyda nam golwg.
Fe wnaeth y grŵp o saith aelod roi cynnig arnynt, ac fe gawson ni ychydig o hwyl yn gofyn cwestiynau i Meta.
Dangosodd Stephanie, sydd eisoes â phâr o sbetolau Meta, sut mae hi’n eu defnyddio bob dydd.
Dewch i ymuno â ni yn ein sesiwn nesaf - ar y pedwerydd dydd Iau o’r mis.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Bethan ar 01248 353604.
- Aelodau Cymdeithas y Deillion yn eistedd o amgylch y bwrdd
- Tri aelod o Cymdeithas y Deillion yn dysgu amdan sbectol meta
- Dwy aelod o Cymdeithas y Deillion yn help ei gilydd gyda'r sbectol Meta
- Aelod o Cymdeithas y Deillion yn arddangos sut mae'r sbectol Meta yn gweithio
- Golwg bell o aelod o Cymdeithas y Deillion yn arddangos sut mae'r sbectol Meta yn gweithio
- Golwg agos o aelod o Cymdeithas y Deillion yn arddangos sut mae'r sbectol Meta yn gweithio
- Golwg agos o aelod o Cymdeithas y Deillion yn gwsgo sbectol Meta
- Bethan yn gwisgo sbectol Meta
- Aelod o Cymdeithas y Deillion yn trio sbectol Meta









