Betws-y-Coed i Llyn Elsi
Betws-y-Coed i Llyn Elsi, dydd Mercher, Gorffennaf 17, 2024
Roedd yr haul yn gwenu wrth inni fynd ar ein taith ddiweddaraf o Betws-y-Coed i Llyn Elsi.
Roedden ni wedi newid lleoliad y daith arfaethedig o Gapel Curig i Fwthyn Ogwen oherwydd bod y tywydd wedi bod mor wlyb yn ddiweddar a gallai’r llwybr hwnnw wedi bod yn rhy gwlyb a mwdlyd.
Roedden o’r farn y byddai’r daith hon i Lyn Elsi yn llawer gwell.
Fe ddechreuodd bws Dilwyn o swyddfa Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru, Bangor cyn codi rhagor o gerddwyr ym Methesda a gorsaf reilffordd Betws-y-Coed lle'r oedd yna doiledau ar ddechrau a diwedd y daith.
Mae Llyn Elsi yng Nghoedwig Gwydyr uwchben Betws-y-Coed.
Fe ddechreuon ni'r daith heb fod ymhell o Raeadr Ewynnol.
Aethom ar hyd ffyrdd coedwigaeth eithaf llydan gyda’r wyneb yn weddus – a dim mwd!
Rhai o’r nodweddion a ddaethon ar eu traws oedd Pont Rory a phlac arni er cof am Rory O’Donnell oedd yn beiriannydd ac yn gweithio yn yr ardal.
Daethom ar draws dwy Americanes oedd yn cerdded ac wedi syrthio mewn cariad a Chymru a nifer o gerddwyr eraill yn agosach at Lyn Elsi.
Defnyddir Llyn Elsi fel cronfa i gyflenwi dŵr i'r pentref.
Mae yna lwybr yn amgylchynu'r llyn.
Yn wreiddiol roedd dau lyn bach yma, Llyn Rhisgog a Llyn Enoc, ond yn 1914 adeiladwyd argae 20 troedfedd i greu un llyn mwy.
Mae cofgolofn ar ochr ogleddol y llyn yn cofnodi fod Arglwydd Ancaster wedi rhoi caniatâd i adeiladu'r argae a defnyddio'r llyn fel cronfa ddŵr.
Gyda golygfeydd godidog draw dros y llyn, fe gawsom ni aros am ginio cyn anelu yn ôl i’n man cychwyn.
Roedd y daith gyfan tua 4.5 milltir.
Dywedodd un o’r cerddwyr, Chris Copeman, Llandudno, ei fod wedi mwynhau cael cymorth gan dywysydd i roi cymorth iddo ar hyd y daith ac roedd eisiau diolch yn fawr i’r Gymdeithas, y trefnydd Mark Roberts a’r gwirfoddolwyr.
Ychwanegodd cerddwr arall, Kevin Phillips, Caernarfon: “Mae 'na gwmni bach neis wedi dod yma heddiw. Mae’r cymdeithasu yn werth mwy na dim byd arall a dweud y gwir.”
Fe fyddan ni yn trefnu teithiau cerdded ar y trydydd dydd Mercher bob mis ac yn rhoi gwybod ichi cyn bo hir am fanylion ein taith nesaf.
Unrhyw ymholiadau cysylltwch â Bethan Sage Williams ar 01248 353 604 neu bethan@nwsb.org.uk
- Grwp o cerddwyr gyda'i cwn tywys
- Grwp o pobl yn eistedd ar fainc gyda llyn yn y cefndir
- Carreg gyda llechan arna fo gyda'r geiriau - Pont Rory, Er Cof am Rory O'Donnell
- Cae gwyrdd gyda coed a gwartheg yn y cefndir
- Grwp o cerddwyr yn dilyn llwybr ac golygfa o'r mynyddoed yn y cefndir
- Person yn cerdded gyda'i ci tywys