Blas o gynnwys rhifyn Hydref, Papur Menai
Mae Papur Menai - papur newydd Glan Menai o Benmon i Ddwyran, Ynys Môn - yn cael ei ddarllen bob mis gan wirfoddolwyr.
Mae eu darlleniadau nhw yn cael ei recordio gan Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind yn ein stiwdio ym Mangor.
Mae'r recordiadau CD o'r papur wedyn yn cael eu hanfon drwy'r post i unrhyw un sydd â nam golwg fydde'n dymuno gael fersiwn llafar.
Dyma flas o gynnwys papur mis Hydref – diolch i’r darllenwyr Bethan a William Parry.
Mae nhw hefyd yn awyddus i gael rhagor o bobl i wirfoddoli i ddarllen y papur a'i recordio.
Os oes ganddo chi ddiddordeb, cysylltwch gyda'r ysgrifennydd, Bethan-thomas@hotmail.com neu 01248 715725