Bore gwych yng Nghlwb Cymdeithasol y Deillion ym Mae Colwyn!
Heddiw, mwynhaodd Bethan fore hyfryd yng Nghlwb Cymdeithasol y Deillion ym Mae Colwyn, lle cafwyd croeso cynnes ac ysbryd cymunedol gwych.
Roedd Sian a’i gwirfoddolwyr o YouthShedz yn brysur yn y gegin yn paratoi ‘shepherd’s pie’ blasus i bawb ei fwynhau, ac yna pwdin reis blasus i ddilyn.
Tra roedd y pryd yn coginio, mwynhaodd yr aelodau sgwrsio a chael y newyddion diweddaraf gan ffrindiau.
Treuliodd Bethan amser yn sôn am barti Nadolig y clwb sydd i ddod fis nesaf – rhywbeth a greodd lawer o gyffro ymhlith yr aelodau.
Roedd llawer o gwestiynau hefyd am y dechnoleg gynorthwyol ddiweddaraf, gan gynnwys sbectolau clyfar Meta a dyfeisiau chwyddo ar gyfer pobl â golwg gwan; roedd yr aelodau’n awyddus i ddysgu mwy am sut y gall y dyfeisiau hyn gefnogi pobl sy’n byw gyda cholli golwg.
Trefnodd Polly, sy’n rhedeg y clwb, gwis hwyliog a difyr a wnaeth i bawb gymryd rhan a dod â llawer o chwerthin i’r ystafell.
Ar ôl i’r wis ddod i ben, eisteddodd pawb gyda’i gilydd i fwynhau’r pryd blasus a baratowyd gan Sian Jenkinson a gwirfoddolwyr YouthShedz.
Roedd hi’n arbennig o braf croesawu dau aelod newydd i’r clwb heddiw.
Ar y cyfan, roedd yn fore heulog, llawen a phleserus, yn llawn cyfeillgarwch, bwyd da, chwerthin a chefnogaeth.
Os hoffech wybod mwy am Glwb Cymdeithasol y Deillion, Bae Colwyn, neu os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno, cysylltwch â Bethan ar 01248 353604.
Mae croeso mawr i aelodau newydd bob amser.
- Dyn a dynes yn eistedd ac yn yfed panedau o de.
- 3 o bobl yn eistedd ar gadeiriau, yn siarad ac yn chwerthin
- Dyn a dynes yn eistedd ac yn sgwrsio
- Grŵp o 3 o bobl yn eistedd wrth fwrdd mewn caffi gyda the a bisgedi.
- Pedwar person yn eistedd gyda chwpanau te ac yn siarad â'u gilydd
- Dwy fenyw yn siarad mewn caffi






