Cacen banana Sian yn cael croeso mawr!
Cawson ni fore hyfryd heddiw (26.1.26) yn ein clwb cymdeithasol ym Mae Colwyn. Daeth Sian Jenkinson draw i gael sgwrs am brosiect Youth Shedz a’r cynllun inni gydweithio gyda nhw.
Mae Sian a’i thîm bendigedig o wirfoddolwyr caredig ac ystyriol yn yn bwriadu paratoi prydau a phobi danteithion i’n haelodau!
Clywsom hefyd ychydig mwy am beth yw pwrpas Youth Shedz Gogledd Cymru – yn cynnig lle diogel, hamddenol i bobl ifanc ddysgu sgiliau newydd, magu hyder, a bod yn rhan o’r gymuned.
A heb anghofio - roedd cacen banana cartref Sian yn anhygoel o flasus.
Cawson ni hefyd ddigon o sgwrsio a chwerthin, a rydyn ni eisoes yn edrych ymlaen at y tro nesaf.
- Aelodau clwb cymdeithasol Bae Colwyn yn bwyta ac yn siarad gyda'i gilydd
- Aelodau Bae Colwyn yn cael paned o de
- Aelodau Bae Colwyn yn cael paned o de ac yn siarad am brosiect Youth Shedz
- Aelodau Bae Colwyn yn cymdeithasu gyda'i gilydd yn y clwb cymdeithasol
- Dau aelod o'r clwb cymdeithasol yn siarad gyda'i gilydd
- Aelodau clwb cymdeithasol Bae Colwyn yn siarad am brosiect Youth Shedz
- Aelodau clwb cymdeithasol Bae Colwyn yn siarad gyda Sian Jenkinson am brosiect Youth Shedz
- Aelodau clwb cymdeithasol Bae Colwyn yn siarad gyda ei gilydd o amgylch y bwrdd








