A- A A+

English

Cannoedd yn mynychu Diwrnod Agored llwyddiannus ym Mhorthmadog

Daeth nifer fawr o bobl yn byw gyda nam golwg i Ddiwrnod Agored arbennig a drefnwyd gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mhorthmadog ddoe.

Mae’r Gymdeithas wedi trefnu nifer o ddyddiau tebyg o’r blaen mewn lleoliadau tebyg i’r Venue yn Llandudno, Portmeirion a’r Royal Oak yn y Trallwng, Powys.

Y tro hwn cynhaliwyd y digwyddiad yn Y Ganolfan, Porthmadog fel bod pobl o dde Gwynedd rhannau eraill y gogledd yn ogystal â phobl o’r canolbarth yn cael cyfle i fynychu.

Roedd nifer wedi dod o Geredigion.

Y bwriad oedd arddangos i bawb yr offer diweddara sydd ar gael gan gynnwys dyfeisiadau electronig.

Roedd nifer fawr o asiantaethau a chwmnïau yn bresennol i gyd o dan yr un to fel bod defnyddiwyr yn cael y cyfle i roi tro ar yr offer yn ogystal â dysgu am y gwahanol wasanaethau sydd ar gael.

Ymysg yr asiantaethau a gwasanaethau oedd yno i arddangos eu hoffer a’u cymorth oedd VisionAid Technologies Ltd, HumanWare, Specsavers, Clwb cerdded Eryri walking club, Macular Society, Guide Dogs Cymru, RSBC, RNIB Cymru, Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn, Cyngor Gwynedd, Heddlu Gogledd Cymru, North Wales Fire and Rescue Service / Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Blind Veterans UK a Maximus UK.

Dywedodd Lisa Lee, Blind Vets UK: “Mae o wedi bod yn ddiwrnod prysur iawn a dwi’n edrych ymlaen at yr un nesaf.”

Eleri Griffiths, Gofal a Thrwsio Gwynedd: “’’Da ni wedi cael diwrnod gwych.”

Rachel Llewellyn, RNIB Cymru: “Dwi wedi bod yn siarad gyda llawer o bobl trwy’r dydd.”

Jenny Dogan, Specsavers: “Mae wedi bod yn ddiwrnod gwych.”

Jonathan Potts, Vision Aid: “Braf gweld cymaint o bobl yn holi am gymorth.”

Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru, Steven Thomas: “Ryda ni yn hynod falch ein bod wedi gweld a rhoi cymorth i dros 200 o bobl yn ein Diwrnod Agored ym Mhorthmadog.

“Mae’r adborth a gafon ni gan bawb wedi bod yn bositif iawn. Hoffwn ddiolch i Bethan Sage Williams am drefnu digwyddiad mor boblogaidd.”