Basged (0) Mewngofnodi

Caru cerdded? Helpwch bobl sydd â nam golwg I fynd am dro

Mae clwb cerdded cyfeillgar ar gyfer pobl ddall a phobl sy'n byw gyda nam golwg yn chwilio am wirfoddolwyr newydd i helpu i arwain eu y teithiau cerdded misol ledled Gogledd Cymru.

Sefydlwyd Clwb Cerdded Eryri yn 2007 i helpu aelodau i fod yn egnïol, magu hyder a mwynhau cwmni eraill wrth droedio llwybrau harddaf Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy.

I lawer o bobl sy'n byw gyda nam golwg, gall mynd allan yn annibynnol fod yn her. Dyna pam mae'r teithiau cerdded hyn mor bwysig. Maent yn cynnig cyfle i fwynhau natur mewn amgylchedd diogel a chefnogol tra’n gwneud ffrindiau newydd, a gwella lles corfforol a meddyliol.

Mae'r grŵp yn cyfarfod ar y trydydd dydd Mercher pob mis yn swyddfeydd Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mangor, cyn teithio ar fws i leoliad y daith gerdded. Darperir trafnidiaeth yn rhad ac am ddim, gan ddileu un o'r rhwystrau mwyaf y mae llawer o bobl yn eu hwynebu wrth gymryd rhan.

Mae'r teithiau cerdded yn cael eu cynllunio'n ofalus a gallant fod hyd at bum milltir o hyd. Dewisir y llwybrau i sicrhau bod pawb yn teimlo'n gyfforddus, yn ddiogel ac yn rhan o'r grŵp. Fel arfer, mae rhwng 20 a 30 o bobl yn ymuno â phob taith, gan gynnwys cerddwyr sydd â nam golwg, tywyswyr gwirfoddol, ac yn aml, rhai cŵn tywys hefyd.

Mae'r clwb bellach yn chwilio am wirfoddolwyr a fyddai'n fodlon helpu i drefnu ac arwain teithiau cerdded yn y dyfodol, gan sicrhau y gall y gweithgaredd poblogaidd hwn barhau i gefnogi pobl sy'n byw gyda nam golwg ledled Gogledd Cymru.

Does dim angen i chi fod yn gerddwr profiadol. Os ydych chi'n mwynhau cerdded, cyfarfod â phobl a helpu eraill, gallai hwn fod yn gyfle gwerthfawr i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich cymuned. Mae tîm ymroddedig o wirfoddolwyr eisoes yn cefnogi'r grŵp drwy dywys cerddwyr, cynnig cymorth pan fo angen, a rhannu sgyrsiau a chwerthin ar hyd y ffordd.

Mae'r teithiau cerdded yn helpu pobl i aros yn egnïol, cynnal eu hannibyniaeth a mwynhau'r manteision o dreulio amser yn yr awyr agored. Maent hefyd yn cynnig cysylltiadau cymdeithasol gwerthfawr ac yn rhoi hwb i les meddyliol pawb. Os hoffech wybod mwy am arwain teithiau cerdded yn y dyfodol, ffoniwch Bethan Sage Williams, Swyddog Ymgysylltu, ar 01248 353604 neu admin@nwsb.org.uk.

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Ymunwch â ni a helpu i sicrhau bod y teithiau cerdded poblogaidd hyn yn parhau i gynnig cyfeillgarwch, hyder ac antur i bobl sy'n byw gyda nam golwg ledled Gogledd Cymru.

Lluniau: Llun diweddar o'n grŵp, a dynnwyd yn ystod ein taith gerdded ddiwethaf ym Mhorthaethwy. Hefyd, amrywiol luniau o deithiau cerdded diweddar.