Basged (0) Mewngofnodi

Chris am redeg Ras Cefn y Ddraig i godi arian i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru

Mae rhedwr o Wynedd am gystadlu yn un o’r rasys mynydd anoddaf yn y byd at achos da.

Gobaith Chris Williams, 47, o Fethesda, tad i Cari, 18 a llysdad i Enoc, 18 a Begw, 14, ydi codi arian i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru drwy redeg Ras Cefn y Ddraig sef 240 o filltiroedd – o Gonwy i Gaerdydd.

Mae’n ras chwe diwrnod i fyny copaon yn cynnwys y Glyderau, Crib Goch, Wyddfa, Cadair Idris ac i lawr I Fannau Brycheiniog i lawr yn y de.

Mae’n golygu rhedeg dros 60,000 o droedfeddi o ddydd Llun, Medi 1 tan ddydd Sadwrn, Medi 6.

Penderfynodd wneud yr her oherwydd y cymorth mae ei wraig, Einir, wedi’i dderbyn gan y Gymdeithas.

Mae Einir yn byw gyda chyflwr Stargardt sy’n golygu nad yw hi nawr yn cael gyrru car ac angen cymorth i ddarllen print man.

Mae Einir hefyd yn gweithio i’r Gymdeithas fel cydlynydd llyfrau llafar.

Dywedodd Chris mae’r ras yma a’i hysbrydolodd i ddechrau rhedeg yn y mynyddoedd.

Meddai: “Mae’n un o’r rasys anoddaf yn y byd a dwi’n meddwl y bydd o’n dipyn o her!

“Dwi’n casglu arian i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru. Tua blwyddyn a hanner yn ôl fe wnaeth fy ngwraig, Einir, golli ychydig o’i golwg.

“Aeth hi i’r ysbyty a chafodd wybod fod ganddi Gyflwr Stargardt. Ar y pryd roedd yn dipyn o sioc inni. Daeth Einir yma at Gymdeithas y Deillion i siarad gyda nhw ac roedden nhw yn dda iawn efo hi.

“Fe wnaethon nhw helpu hi lawer a chael cyngor ardderchog. Fe ddangoson nhw be allith hi ddefnyddio fydd o gymorth bob diwrnod.

“Roedden nhw yn wych efo hi ac allai ddim dweud dim byd gwell.

“Ro’n i isio rhoi rwbath yn ôl iddyn nhw a chasglu gymaint ac y gallai o bres.”

Mae Chris wedi sefydlu tudalen Just Giving er mwyn i bobl gyfrannu arian i’r Gymdeithas.

Bydd hefyd yn bosib dilyn ei gynnydd ar y We. 

Cyfranwch yma i gefnogi Chris Williams drwy Just Giving