Clwb Cerdded Eryri Gwarchoda Natur Cemlyn
Helo Pawb,
Rydym wedi trefnu taith o amgylch Gwarchodfa Natur Cemlyn sydd ar arfordir Gogleddol Ynys Môn.
Mae Gwarchodfa Natur Cemlyn yn cynnal un o’r trefedigaethau môr-wenoliaid mwyaf yn y Deyrnas Unedig a bydd Ben Stammers o’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yn ymuno â ni i siarad am yr adar a gwaith yr Ymddiriedolaeth cyn ein harwain ni ar hyd rhan o Lwybr Arfordirol Ynys Môn.
Mae’r daith gerdded yma ychydig yn llai na 4 milltir a byddwn yn cychwyn ac yn gorffen ein taith gerdded ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth (SH 329936). Os yw'r tywydd yn braf a phawb yn teimlo'n iawn, gallwn ychwanegu milltir ychwanegol at ein llwybr.
Mae’r llwybr glaswelltog ar ben y clogwyn isel uwchben Glan y Môr cyn dychwelyd ar hyd lonydd tarmac. Gallai'r glaswellt fod ychydig yn llithrig ar ôl unrhyw law, felly mae esgidiau cerdded cryf yn hanfodol ac hefyd gwisgwch ddillad addas .
Mae’r bws yn gadael y swyddfa,Stryd Fawr Bangor am 10:15 ac yn codi pobl i fynu ym maes “Parcio a Theithio” wrth ochr Bont Britannia yn Ynys Mon am 10:30 i’r rhai sy’n dymuno gwneud hynny.
Byddwn yn cyrraedd Maes Parcio Cemlyn tua 11:20 a chael egwyl toiled yn yr Ymddiriedolaeth Natur cyn cychwyn ar ein taith gerdded am 11:30.
Dylem fod yn ôl yn y maes parcio erbyn 15:00 ac yn ôl ym Mangor tua 16:00 o'r gloch.
**Peidiwch ag anghofio bocs bwyd.
Byddwn yn gohirio’r daith os bydd tywydd yn ddrwg –
Os byddwnyn penderfynu gohirio, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost a neges ffon erbyn 8a.m
Wrth ymateb i'r e-bost hwn a allech gynnwys rhif ffôn symudol I gysylltu a chi os gwelwch yn dda.
A wnewch chi roi gwybod i Bethan cyn gynted â phosibl os ydych yn bwriadu ymuno â ni.
1. A fyddwch chi'n ymuno â ni ar y daith gerdded?
2. A oes unrhyw un yn dod gyda chi?
3. Oes angen gwirfoddolwr tywys arnoch chi?
4. Rhif ffôn symudol.
5. Ble byddwch chi'n cwrdd â'r grŵp?
Cofion cynnes,
Peter Evison a Mark Roberts
Bethan Sage Williams