A- A A+

English

CLWB CERDDED ERYRI - Taith I Rhyd Ddu

CLWB CERDDED ERYRI
Taith I Rhyd Ddu
Dydd Mercher 15 Mai 2024

Helo Pawb,

Taith o amgylch Rhyd Ddu yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri rydym wedi ddewis mis yma.

Mae'r daith yn ychydig dros 4 milltir o hyd ond bydd yn fwy o her na'n teithiau cerdded diweddar. Dylem fod allan am tua thair awr a hanner gan gynnwys  stop hanner awr am ginio.

Bydd ein taith yn cychwyn ym maes parcio gorsaf Rhyd Ddu ac yn dilyn y filltir gyntaf i fyny llwybr yr Wyddfa (dringfa o tua 400 troedfedd o Rhyd Ddu)

Ar ôl  cinio byddwn yn gwneud ein ffordd i lawr llwybr newydd Beddgelert i ymyl Coedwig Beddgelert cyn dychwelyd i Rhyd Ddu heibio Llyn Y Gadar.

Mae rhai rhannau anwastad a all fod ychydig yn llithrig ar ôl unrhyw law, felly mae esgidiau cerdded cryf yn hanfodol ac fe'ch cynghorir hefyd i wisgo dillad gwrth-ddŵr oherwydd gall y tywydd mynyddig fod yn gyfnewidiol.

Mae’r bws yn gadael swyddfeydd NWSB Stryd Fawr Bangor am 10:20 ac yn codi yn Caernarfon Morrison’s gyferbyn â’r Alexandria am 10:40.

Dylem gyrraedd maes parcio gorsaf Rhyd Ddu am tua 11:15 lle mae toiledau cyhoeddus a dylen ni allu cychwyn ein taith gerdded am 11:30. Byddwn yn cwblhau ein taith gerdded ym maes parcio Rhyd Ddu mewn pryd i’r bws ein casglu am 15:15 o’r gloch. Disgwyliwn gyrraedd yn ôl yng Nghaernarfon am tua 15:45 ac ym Mangor tua 16:15 o'r gloch.

Peidiwch ag anghofio eich pecyn bwyd a diodydd!

Byddwn yn gohirio'r daith os bydd tywydd yn wael - Os bydd angen i ni wneud penderfyniad i ganslo, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost a text  ar y diwrnod cyn y daith gerdded - byddwn canslo ar ddiwrnod y daith gerdded mewn argyfwng yn unig.

Rhif cyswllt brys newydd ar ddiwrnod y daith gerdded 07949996405

Bydd gan arweinydd y daith ffôn gyda nhw yn ystod y daith gerdded.

Mae'n bwysig, os ydych chi'n bwriadu ymuno â ni, eich bod yn rhoi gwybod i Bethan cyn gynted â phosib er mwyn i ni allu trefnu cludiant.  Gofynnwn yn garedig i chi ateb  erbyn hanner dydd ar 8fed o  Fai  os gwelwch yn dda.

1. ydych am ymuno â ni ar y daith?
2. A oes unrhyw un yn dod gyda chi?
3. A oes angen gwirfoddolwr tywysydd golwg arnoch?
4. Rhif ffôn symudol.
5. Lle byddwch chi'n cwrdd â'r grŵp?

Cofion cynnes,

Mark Roberts

Bethan Sage Williams Swyddog ymgysylltu