Basged (0) Mewngofnodi

Coroni dau sydd â nam golwg yn athletwyr y flwyddyn mewn Gwobrau Chwaraeon

Cafodd dau athletwr sydd â nam golwg eu coroni yn athletwyr y flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Gwynedd.

Mae Nick Thomas, 47, o Dalysarn, Dyffryn Nantlle, wedi ei gofrestru yn ddall ac yn gweithio fel swyddog datblygu i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mangor. 

Mae ganddo gyflwr o’r enw Stargardt ers ei fod yn 18 oed, ac mae wedi chware pêl-droed i dîm rhannol-ddall Lloegr. 

Fis Medi enillodd Nick fedal aur ym Mhencampwriaethau Para-Saethyddiaeth y Byd yn Gwangju, de Corea yn cynrychioli Prydain.

A nos Wener ddiwethaf (Rhagfyr 5) enillodd wobr ‘Athletwr Hyn y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Chwaraeon Byw’n Iach Gwynedd 2025 yn Galeri, Caernarfon.

Enillodd y nofwraig Ela Letton-Jones, 19, o’r Felinheli, sy’n fyfyrwraig yng Ngholeg Met Manceinion wobr ‘Athletwraig Hyn y Flwyddyn’. 

Mae Ela wedi’i chofrestru’n ddall gyda albiniaeth sef diffyg pigmentiad yn y corff. 

Enillodd Ela fedal arian ym Mhencampwriaethau Nofio Para’r Byd yn Singapore fis Medi yn cynrychioli Prydain.

Meddai Nick: “Ti ddim yn cyrraedd top y goeden heb wneud y gwaith yn y lle cyntaf. Mae hwn y trydedd flwyddyn yn olynol imi wneud y rhestr fer. Y ddwy flynedd flaenorol ‘dwi ‘di colli i rywun sy’ wedi curo pencampwriaeth byd mewn un chwaraeon neu’r llall. 

“Mae’n fraint cael curo – dwi’n gwybod bod lefel chwaraeon Gwynedd yn uchel iawn. Mae geno’ ni lot o athletwyr talentog iawn. 

“Fel person sydd efo nam golwg ond sy' ddim yn gadael i’r nam golwg reoli be ‘dwi yn ei wneud neu ddim yn ei wneud - roedd yn anhygoel gweld bod enillydd athletwr ac athletwraig hyn y flwyddyn yn berson efo nam golwg. 

“Roedd yn bleser rhannu’r llwyfan efo Ela a gweld fod y gwaith caled mae athletwyr efo nam golwg – yn ei roi fewn.” 

Mae Nick nawr yn paratoi at gystadlu ym Mhencampwriaethau Para-Saethyddiaeth Ewrop y flwyddyn nesaf gyda’r gobaith o fod yn bencampwr y byd a phencampwr Ewrop.

Meddai Ela, 19, sy’n fyfyrwraig yng Ngholeg Met Manceinion: “‘Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill. Oedd o’n rhyw fath o gydnabyddiaeth o’r holl waith a’r oriau hir ‘dwi di bod yn y pwll dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Oedd o’n neis gallu dathlu efo pawb o Byw’n Iach. Mae ‘na lot o gystadlaethau ledled y byd ac mae’n neis gweld faint o dalent sydd yng Ngwynedd.

“Oni yn eistedd reit drws nesa i Nick ac roedd yn braf cael siarad efo fo fatha’n normal yn gyntaf a sylweddoli wedyn fod gan ein dau nam golwg. 

“Mae’n jyst yn dangos pa bynnag fath o anhawsterau sy’ gin ti, mae rhywun yn gallu llwyddo." 

Mae Ela yn gobeithio cystadlu yn y Gêmau Olympaidd yn Los Angeles yn 2028 ac o gynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad y flwyddyn nesaf.