Croesi bysedd i Nick ar gyfer seremoni gwobrau chwaraeon Variety heno!
Mae para-saethydd, sy’n gweithio gyda’r deillion, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau arbennig yn Llundain heno.(12.10.26)
Mae Nick Thomas, 48, o Dalysarn, Dyffryn Nantlle, wedi’i gofrestru yn ddall ac yn gweithio fel swyddog datblygu gyda Chymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mangor, Gwynedd.
Daeth yn bencampwr para-saethyddiaeth y byd yn Ne Corea fis Medi diwethaf gan ennill medal aur.
A’r llynedd enillodd Nick wobr ‘Athletwr Hyn y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Chwaraeon Byw’n Iach Gwynedd 2025 yn Galeri, Caernarfon.
Meddai Nick: “Waw, am anrhydedd a braint!!
“Rwyf wrth fy modd yn cyhoeddi fy mod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr am gyflawniad unigol rhagorol yng ngwobrau chwaraeon anabledd 'Variety the Children's Charity of Great Britain' eleni.
“Rwy'n edrych ymlaen at noson y gwobrau heno, ac yn gyffrous i gwrdd â'r holl athletwyr a phobl ysbrydoledig eraill a fydd yn bresennol. Dymunwch bob lwc i mi!”



