Cwrs hyfforddiant ymwybyddiaeth nam golwg
Cwrs hyfforddiant ymwybyddiaeth nam golwg, Cyngor Gwynedd, Caernarfon 16.9.24
Daeth 14 o weithwyr gofal yng Ngwynedd i gwrs hyfforddiant ymwybyddiaeth i’w haddysgu sut i gydweithio gyda phobl sydd â nam golwg.
Arweinwyr y cwrs oedd Dafydd Eckley a Nick Thomas – y ddau yn gweithio i Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru.
Dechreuodd Dafydd drwy egluro fod o leiaf 400 o bobl yng Ngwynedd wedi eu cofrestru’n ddall neu’n rhannol ddall.
Eglurodd hefyd mai swyddogaeth Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru ydi gwneud y mwyaf o alluoedd gweledol pob cleient – yn blant ac oedolion.
Fe roddodd fanylion am rai o’r nifer o gyflyrau llygaid sy’n bodoli a’r cymorth sydd ar gael i bawb.
Eglurodd Nick am ei nam golwg ei hun gan ganmol gwaith gweithwyr adsefydlu’r Gymdeithas sy’n medru rhoi cymorth i bob cleient yn eu cartrefi eu hunain neu yn ein canolfan ar Stryd Fawr Bangor.
Dywedodd Nick: “Fe wnawn gynnig ein cymorth i bob unigolyn. Mae’n rhaid trin pob unigolyn yn wahanol.”
Dangosodd Nick a Dafydd y gwahanol offer sydd ar gael i bobl sy’n byw gyda nam golwg cyn rhoi cyfle i bawb oedd ar y cwrs i gael sesiwn ymarfer tywys person sydd gyda nam golwg drwy wisgo mwgwd.
Roedd ymateb pawb oedd ar y cwrs yn bositif iawn i’r hyfforddiant yng nghwmni Dafydd a Nick gyda phob un o’r farn eu bod wedi dysgu llawer yn ystod y teirawr.
Mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn cynnig cyrsiau hyfforddiant ymwybyddiaeth i unrhyw fudiad, cwmni, cymdeithas ac ati sydd eisiau gwybod mwy am gydweithio gyda phobl sydd â nam golwg.
Os hoffech wybod mwy, cysylltwch gyda Dafydd Eckley neu Nick Thomas drwy ffonio 01248 353604 neu admin@nwsb.org.uk neu dewch i’n gweld am sgwrs yn ein swyddfa yn 325, Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd.
- Cyfarfod ac hyfforddiant o amgylch bwrdd pren cyda pobl
- Cyfarfod ac hyfforddiant o amgylch bwrdd pren cyda pobl
- Pobl yn gwrando ar dyn
- Cyfarfod ac hyfforddiant o amgylch bwrdd pren cyda pobl
- Cyfarfod ac hyfforddiant o amgylch bwrdd pren cyda pobl
- Cyfarfod ac hyfforddiant o amgylch bwrdd pren cyda pobl
- Pobl yn cael tour o gwmpas y stryd
- Pobl yn cael tour o gwmpas y stryd
- Pobl yn cael tour o gwmpas y stryd