Basged (0) Mewngofnodi

Cyfarfod ar 15.9.26 i drafod teithio ar Ynys Môn

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cynnal cyfarfod i drafod eu cynlluniau trafnidiaeth ar gyfer y dyfodol.

Cynhelir y cyfarfod ar Medi 15, 2026 rhwng 10 ac 11 y.b. ar TEAMS.

Bydd y cyfarfod yn canolbwyntio ar Deithio Llesol; cyfle i drafod sut brofiad yw teithio o amgylch Ynys Môn a sut y gellir gwella hyn.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno, cysylltwch â SianPeters@ynysmon.llyw.

Mae'r llun yn dangos arwydd 'Croeso i Ynys Môn' 'Welcome to Anglesey' ym Mhorthaethwy gyda arwydd arall, llai o faint, gyda 'Ffordd Cymru . Wales Way' oddi tano. Mae'r awyr yn las yn y llun.

  • arwydd Croeso i Ynys Môn