Cyfle braf i ymlacio a sgwrsio gyda ffrindiau tra bod yn greadigol
Fe gafon ni fore gwych yng Nghlwb Cymdeithasol, Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru, Bae Colwyn, lle daeth aelodau at ei gilydd ar gyfer sesiwn gelf gyda Lydia Mary Fernandez-Arias a'i merch Eva.
Fe wnaethom greu 'Patchwork Pots' gyda ffabrigau o wahanol weadau a phatrymau, botymau, les a braid.
Yna plannwyd y potiau gyda bylbiau haf.
Diolch yn fawr, Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru, Tîm Lles Cymunedol Conwy a Dunelm, Cymorth Cymunedol Bangor am roi ffabrig ac addurniadau hardd! Fe wnaeth pawb fwynhau eu hunain!