Cyfle i bobl sy’n byw gyda nam golwg i yrru car rasio
Os ydych chi'n byw gyda nam golwg ond yr hoffech chi yrru car ar drac rasio, dyma'ch cyfle.
Mae elusen Speed of Sight yn cynnal digwyddiad ar ddydd Llun, Hydref 5fed yn Trac Môn, Ty Croes, Ynys Môn.
Mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru wedi cynnal digwyddiadau tebyg yn y gorffennol gyda Speed of Sight yn Trac Môn.
Mae hwn yn gyfle i unrhyw un gyda anableddau gan gynnwys nam golwg i gael cyfle i yrru car wedi’I addasu’n arbennig.
Dyma a ddywed y trefnwyr: “Profwch y wefr o yrru cerbyd sydd wedi'i addasu'n arbennig ar un o draciau rasio harddaf y Deyrnas Unedig.
“Gyda chefndir godidog Eryri a Môr Iwerddon, mae Cylchffordd Ynys Môn yn cynnig profiad gyrru bythgofiadwy sydd wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer oedolion a phlant anabl.
“Cyfleoedd gyrru hygyrch; meithrin hyder ac annibyniaeth; cyfarfod â phobl newydd; amgylchedd diogel a chefnogol; hwyl i gyfranogwyr a gwylwyr.
“Credwn fod pawb yn haeddu'r cyfle i fwynhau chwaraeon, herio eu hunain a phrofi cyffro chwaraeon modur.
Mae’n bosib i archebu eich lle nawr: https://speedofsight.org/driving-events/trac-mon-anglesey-8th-october-2025-2
- car coch ar gyfer y trac gyda dau berson ynddo yn gwisgo helmedau
- Dau ddyn yn eistedd mewn cart coch.
- dynes yn chwifio baner ddu a gwyn ar y cwrs rasio
- Dyn yn eistedd mewn cart gwyn gyda chymorth rhywun mewn dillad gweladwyedd uchel.
- Pobl yn gwisgo helmedau yn eistedd mewn cart coch.
- dynes yn eistedd yng nghadair y gyrrwr mewn cart rasio.






