Cymdeithas y Deillion yn annog beicwyr i fod yn fwy ymwybodol o reolau diogelwch ffyrdd
Mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn annog beicwyr i fod yn fwy ymwybodol o reolau diogelwch y ffordd ar gyfer palmentydd a lonydd beicio.
Daw’r apêl yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion o bobl dall yn cael eu taro gan feicwyr.
Mae beiciau - a beiciau a sgwteri trydan - eisoes wedi’u gwahardd rhag defnyddio palmentydd yn ôl y Ddeddf Priffyrdd.
Ond mae’r Gymdeithas eisiau tynnu sylw hefyd at gwynion gan y deillion nad ydyn nhw’n teimlo’n ddiogel wrth gerdded ar hyd palmentydd a lonydd beicio.
Mae’r elusen o Fangor, Gwynedd yn cynrychioli deillion a phobl sy’n byw gyda nam golwg gan eu cefnogi i fod mor annibynnol â phosibl.
Mewn un achos diweddar - a ddigwyddodd ar un o strydoedd tref yn y Gogledd - cafodd dyn dall ei daro gan feic trydan a’i anafu.
Dywedodd y dyn - nad yw am gael ei enwi - fod y digwyddiad wedi ei ysgwyd.
Meddai’r dyn: “Roeddwn i’n cerdded ar y pafin gyda fy nghi tywys pan ddôth y beic o’r cefn a tharo fy mraich.
“Roeddwn i newydd dynnu fy siaced weladwy ac yn ei dal hi yn fy llaw pan ddigwyddodd o.
“Dwedais: ‘Be ti’n wneud? A dwedodd hitha’ yn Saesneg: ‘I rang my bell but you didn’t get out of the way!”
Meddai’r dyn: “Clywais i’r gloch ond roedd 'na gymaint o sŵn ceir ac ati ar y stryd. Hefyd d’oedd gin i ddim syniad o ba gyfeiriad oedd y gloch yn dod.
“Ti ddim yn disgwyl i rywun ddod y tu ôl iti felna ar feic yn enwedig ar y pafin!”
Dywedodd ei fod wedi dychryn yn arw oherwydd y digwyddiad a bod ymateb y ddynes wedi bod yn ffiaidd er fod ganddo ei gi tywys.
Dywedodd prif weithredwr CDGC, Steven Thomas: “Rydym yn cyflwyno apêl gref i seiclwyr: peidiwch â seiclo ar balmentydd, a chymrwch fwy o ofal wrth basio pobl ar lwybrau beicio sy’n cael eu rhannu.
“Mae palmentydd wedi’u cynllunio ar gyfer cerddwyr, ac mae seiclo arnynt yn medru achosi niwed i bobl - yn enwedig pobl sydd â nam ar eu golwg – a’u rhoi mewn perygl difrifol.
“Hyd yn oed ar lwybrau a rennir, nid yw canu clock yn sicrhau y caiff ei glywed nac y bydd y person yn gwybod o ba gyfeiriad rydych yn dod.
“Mae llawer o’n defnyddwyr gwasanaeth dall a rhannol ddall yn dibynnu ar y mannau a rennir i deithio’n annibynnol ac yn hyderus. Yn anffodus, mae rhai yn teimlo’n anniogel oherwydd cyflymder a’r agosrwydd y mae rhai seiclwyr yn eu pasio.
“Mae’r digwyddiad diweddar, lle cafodd gŵr ei daro gan feic ac yna ei gam-drin yn eiriol gan y seiclwr, yn gwbl warthus ac yn peri gofid mawr.
“Mae’r math hwn o ymddygiad nid yn unig yn peryglu bywydau - ond hefyd yn tanseilio ysbryd mannau cyhoeddus cynhwysol a pharchus. Yn ffodus, nid yw pob seiclwr yn ymddwyn yn y modd hwn; mae llawer yn ystyriol ac yn gwrtais, ac rydym yn eu canmol.
“Cofiwch: nid yw pob anabledd yn weladwy, ac ni all rhai pobl weld na chlywed yn ddigon da i symud allan o’r ffordd mewn pryd.
“Nid yw parch, amynedd ac ymwybyddiaeth ofodol yn ddewisol - maent yn hanfodol i gadw’n cymunedau’n ddiogel ac yn groesawgar i bawb.”
Nodyn i olygyddion: Am ragor o fanylion, cysylltwch gyda Steven Thomas, prif weithredwr Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru, 012448 353604
