A- A A+

English

Cymdeithas y Deillion yn penodi swyddog cyfathrebu

Mae Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru (CDGC) wedi penodi swyddog cyfathrebu i ymuno â’r tîm.

Mae Hywel Trewyn yn newyddiadurwr profiadol ac yn byw yng Nghaernarfon.

Bydd Hywel yn gyfrifol am godi proffil y Gymdeithas sy’n cynnig cymorth o ansawdd uchel i blant ac oedolion dall, neu rhannol ddall ledled y gogledd a’r canolbarth.

Fel rhan o’r swydd, bydd Hywel hefyd yn mynd ati i ddenu rhagor o ymddiriedolwyr i gefnogi gwaith yr elusen a gwirfoddolwyr i dywys a rhoi cymorth i’r deillion fwynhau gweithgareddau tebyg i deithiau Clwb Cerdded Eryri.

Mae’r Gymdeithas hefyd yn cynnal nifer o grŵpiau cymdeithasol sy’n cyfarfod yn rheolaidd.

Hywel Trewyn

Gweithiodd Hywel i’r Cymro, yr Herald, BBC, Western Mail, Wales on Sunday, Strata Matrix, Gwasg y Bwthyn a Newyddion S4C ymhlith eraill.

Treuliodd 18 mlynedd gyda’r Daily Post ac yn fwy diweddar gyda phapur hwyliog y Daily Star.

Dywedodd Hywel: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i gyfrannu i’r Gymdeithas fu’n gwneud cymaint o waith da ledled y gogledd a’r canolbarth ers ei sefydlu ym 1882.

“Rwy’n bwriadu defnyddio fy mhrofiad newyddiadurol ar draws nifer o blatfformau i hybu gwaith y Gymdeithas a chodi ymwybyddiaeth am wasanaethau’r elusen.

“Nid yw CDGC yn rhan o unrhyw elusen eraill ac mae’n unigryw gan ei bod yn cynnig ystod o wasanaethau a hynny hefyd trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Ar y dechrau byddaf yn profi’r gwahanol wasanaethau mae’r elusen yn eu cynnig gan gynnwys fel asiant ar ran gwasanaethau cymdeithasol cynghorau Ynys Môn a Gwynedd i roi cymorth a gweithio gyda phobl ddall a rhannol ddall i gefnogi, annog a datblygu sgiliau i hyrwyddo annibyniaeth, hyder a dewis.

“Mae gennym nifer o fentoriaid sy’n rhoi arweiniad a sicrwydd i blant a phobl ifanc a rydym yn cynnig cyngor a hyfforddiant i unrhyw fudiad, gweithle neu ysgol i’w helpu i fod yn fwy ymwybodol o anghenion pobl ddall a rhannol ddall yn y gwaith ac yn gymdeithasol.

“Mae gan CDGC ganolfan adnoddau a chyfarpar technegol arbenigol a gwybodaeth yn ein swyddfa yn Stryd Fawr Bangor ble mae ein stiwdio recordio llyfrau llafar Cymraeg a phapurau lleol hefyd wedi’i lleoli.

“Mae croeso i unrhyw fyddai’n hoffi ymuno â’r Gymdeithas fel ymddiriedolwr neu wirfoddolwr neu unrhyw fyddai’n hoffi cyfrannu drwy rannu eu profiad a’u hanes i gysylltu efo fi.

“Rwy’n falch o weithio i gymdeithas y mae ei defnyddiwyr yn meddwl cymaint ohoni.”.

Mae gan y Gymdeithas dîm o 10 o arbenigwyr ymroddedig sy’n ymweld â chleientiaid yn eu cartrefi.

Mae CDGC yn cyhoeddi 24 o lyfrau llafar bob blwyddyn – eu hanner ar gyfer pobl ifanc – ac yn recordio a dosbarthu wyth papur bro clywedol ar CD neu MP3 yn fisol.

Rhagor o fanylion: Cysylltwch gyda Hywel Trewyn, CDGC, 325 Stryd Fawr, Bangor LL57 1YB neu hywel@nwsb.org.uk neu ffoniwch 01248 353604.

Nodiadau i olygyddion: Sefydlwyd Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru yn 1882 gan grŵp bychan o wirfoddolwyr dan arweiniad llywyddiaeth Esgob Bangor yn y gobaith o “ddysgu’r deillion i ddarllen er mwyn lleihau cymaint a bo modd ar undonedd eu bywydau oherwydd eu dallineb.”