Cymdeithas y Deillion yn Sioe Sir Fôn!
Dewch draw am sgwrs i’n stondin ni ar gae Sioe Môn
Mae ein stondin wedi ei lleoli dan do ym Mhafiliwn Jones Bros yn Sioe Sir Fôn ger Gwalchmai, Caergybi.
Dyma lun o rai o’n gwirfoddolwyr sef, o’r chwith Sheila Phillips; Mark Roberts, aelod o fwrdd cyfarwyddwyr Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru gyda’i gi tywys, Forest; Elaine Roberts a Kevin Phillips.
Mae croeso cynnes ichi ddod i’n holi ynglyn ag unrhywbeth dan haul – heddiw, dydd Mawrth, Awst 12 ac yfory, dydd Mercher, Awst 13.
