Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf
Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad un tro o £200 gan yr Awdurdod Lleol er mwyn helpu i dalu eu costau tanwydd. Mae hwn yn daliad ychwanegol i'r ad-daliad Bil Ynni gan Lywodraeth y DU, a’r Taliad Tanwydd Gaeaf a delir fel arfer i bensiynwyr.
Bydd y taliad ar gael i bob aelwyd cymwys (un taliad yr aelwyd) sut bynnag maent yn talu am danwydd.
Bydd y cynllun ar agor i aelwydydd lle mae’r sawl sy’n gwneud cais neu ei bartner yn derbyn un o’r budd-daliadau lles isod unrhyw bryd rhwng 1 Rhagfyr 2022 a 31 Ionawr 2023:
-
Cymhorthdal Incwm
-
Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
-
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
-
Credyd Cynhwysol
-
Credydau Treth Gwaith
-
Credydau Treth Plant
-
Credyd Pensiwn
-
Taliad Annibyniaeth Personol
-
Lwfans Byw i Bobl Anabl
-
Lwfans Gweini
-
Lwfans ar gyfer Gofalwyr
-
Budd-daliadau Cyfrannol
-
Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
-
Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
-
Lwfans Gweini Cyson
-
Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
Am fwy o wybodaeth ewch I - Cynllun cymorth tanwydd Cymru: 2022 i 2023 | LLYW.CYMRU
Os ydych chi’n profi caledi ariannol, efallai yr hoffech wneud cais i'r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) Cronfa Cymorth Dewisol (DAF) | LLYW.CYMRU.