Basged (0) Mewngofnodi

Cynnwys Barn mis Ebrill nawr ar gael i’r deillion – am ddim!

Heddiw (7.4.26) daeth un o gyd-olygyddion y cylchgrawn materion cyfoes Barn i stiwdio Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru @NorthWalesSocietyoftheBlind ym Mangor i recordio nifer o erthyglau ar gyfer fersiwn sain o’r misolyn - sydd ar gael am ddim.

Mae’r cylchgrawn – a sefydlwyd yn 1962 – wedi mynd ati i helpu darllenwyr dall neu sydd â nam golwg. 

Mae elusennau Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind, Bangor a Llyfrau Llafar, Caerfyrddin yn recordio awduron yn lleisio eu herthyglau eu hunain ac yn eu hanfon nhw fel CDs neu fformat sain arall i’r cyhoedd.

Dywedodd Menna Baines: “Does dim rhaid i chi fod â thanysgrifiad i Barn i fanteisio ar y cynnig – mae’r gwasanaeth ar gael yn rhad am ddim i unrhyw un sydd â diddordeb.

Meddai: “Gallwn ddarparu’r fersiynau sain ar CD drwy’r post neu fel atodiad e-bost – beth bynnag sydd orau i chi.” 

Yn rhifyn mis Ebrill mae Guto Harri yn ymateb i lyfr newydd Will Hayward; Angharad Mair yn coffâu Alun Gibbard a Peredur Lynch yn coffáu Eigra Lewis Roberts. 

Mae Menna Baines hefyd yn cyfweld â’r bardd ifanc Nia Morais. 

Os hoffech chi, aelod o’ch teulu neu ffrind dderbyn y fersiwn sain, cysylltwch â swyddfa@barn.cymru neu ffoniwch Fabio Lewis Llyfrau Llafar: 01267 238225

Os hoffech gyfrannu at yr elusen sy’n galluogi Barn i gynnig y gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim, ewch i tudalen Gwneud Rhodd