Dau ddiwrnod da yn Sioe Môn!
Daeth nifer dda o bobl draw i‘n gweld ni yn stondin Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru ar gae Sioe Môn ddoe. (dydd Mercher, 13.8.25)
Roedd ein stondin wedi ei lleoli dan do ym Mhafiliwn Jones Bros yn Sioe Sir Fôn ger Gwalchmai, Caergybi dros y ddau ddiwrnod.
Dyma luniau o rai o’n staff fu yn delio gyda ymholiadau gan fynychwyr y sioe ddoe yn cynnig cyngor, cyfeirio at gymorth gan gynnwys sut i ymuno gyda Chlwb Cerdded y Gymdeithas.
Mae’r lluniau yn dangos ein aelodau staff Sara Milner-Jones, Anest Jeffery a Rowena Thomas yn cyfarfod gyda aelodau o’r cyhoedd





