Dewch gyda ni ar ein taith gerdded nesaf o Groeslon i Gaernarfon - Dydd Mercher, Tachwedd 19, 2025
Y mis hwn byddwn yn cerdded ar hyd llwybr beicio Lôn Eifion o Inigo Jones (Groeslon LL54 7UE) i Gaernarfon, taith gerdded hamddenol o tua 5 milltir ar lwybr tarmac gwastad yn bennaf.
Mae toiledau ar ddechrau'r daith gerdded yn ogystal ag yng Nghanolfan Arddio Frongoch sydd ar y llwybr. Byddwn yn cael egwyl am ginio yng Ngorsaf Reilffordd Dinas ble mae yna feinciau lle gallwn eistedd am ein cinio.
Argymhellir esgidiau synhwyrol ynghyd â dillad addas. Efallai y bydd angen dillad gwrth-ddŵr os yw'r tywydd yn debyg i'r hyn a fu'n ddiweddar!
Mae'r CDGC wedi trefnu cludiant i adael ein swyddfa am 10:30yb; yn casglu yn arosfan bysiau Morrisons, Caernarfon am 10:50ybm acyn cyrraedd Inigo Jones i ddechrau'r daith gerdded am 11:15yb.
Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech roi gwybod i Bethan Sage Williams (CDGC) os ydych chi'n bwriadu ymuno â ni erbyn dydd Gwener, Tachwedd 14 fan bellaf fel y gallwn drefnu'r cludiant angenrheidiol.
Edrychwn ymlaen yn fawr at eich cwmni eto'r mis hwn. Mark
Credit i'r Lluniau: WikiCommons



