Basged (0) Mewngofnodi

Dewch i ddysgu mwy amdanon ni mewn Diwrnod Agored yn llyfrgell Bangor!

Bydd Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn cynnal Diwrnod Agored i bobl sy’n byw gyda nam golwg yn Llyfrgell Bangor y mis nesaf.

Bydd yn cael ei gynnal ddydd Llun, Hydref 5, 2026 o 10yb-1yp.

Yn ystod y diwrnod, fe fyddwn ni yn egluro beth yw’r gefnogaeth ymarferol a’r offer sydd ar gael yn lleol yn ogystal â rhannu gwybodaeth am wasanaethau lleol.

Fe fyddan ni hefyd yn dangos ein gwasanaeth llyfrau llafar Cymraeg, GWRANDO sydd ar gael drwy eich llyfrgell ar CD, MP3 neu USB.

Bydd y canwr Phill Jones yno hefyd i rannu ei stori am fyw gyda nam golwg yn ogystal â chanu.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Bethan, Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru: 01248 353604